Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Beth yw’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg?

Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP) yn grant hyfforddi drwy Lywodraeth Cymru i helpu cyflogwyr gyda chymorth ariannol tuag at uwchsgilio eu staff.

Drwy FSP, gall cyflogwyr hawlio 50% o gyfanswm y costau cymwys yn ôl. I gael mynediad at FSP a hawlio’r cyfraniad hwn, mae proses ymgeisio y bydd angen i gyflogwyr ei dilyn.

Gall FSP gefnogi uwchsgilio neu ailsgilio yn y sectorau canlynol:

  • Digidol Uwch
  • Creadigol
  • Allforio
  • Peirianneg a Gweithgynhyrchu
  • Coedwigaeth a Chadwyn Gyflenwi Coed
  • Sero Net
  • Twristiaeth a Lletygarwch

I gael rhagor o fanylion am FSP a’n cyrsiau sydd ar gael drwy’r grant cyllido hwn, siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol.

Pwy all gael mynediad at FSP?

I gael mynediad at FSP, rhaid i gyflogwyr:

  • Bod wedi’i leoli yng Nghymru
  • Bod yn solfent
  • Ymrwymo i ryddhau staff ar gyfer yr hyfforddiant erbyn diwedd mis Mawrth 2026

Mae dyfarniadau cyllid yn ôl disgresiwn a Llywodraeth Cymru sydd â’r penderfyniad terfynol ar gymhwystra.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad at FSP, siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol i ddod o hyd i hyfforddiant cymwys.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ac os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad at FSP, bydd angen i chi lenwi ffurflen mynegi diddordeb a fydd yn cael ei hadolygu gan banel buddsoddi sgiliau yn Llywodraeth Cymru a’i gwneud penderfyniad cyn pen 10 diwrnod gwaith. Yna bydd llythyr dyfarnu grant yn cael ei gyhoeddi i ymgeiswyr llwyddiannus.

Er mwyn caniatáu i chi gwblhau eich mynegiant o ddiddordeb, siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol yn gyntaf i ddysgu pa gyrsiau sydd ar gael a fydd yn cefnogi eich busnes orau.

Busnesau yng Nghaerffili a’r cyffiniau

William Keep – william.keep@cymoedd.ac.uk / 01443 663128

Busnesau yn Rhondda Cynon Taf a’r cyffiniau

Paul Rees – paul.rees@cymoedd.ac.uk / 01443 663128

Daniel Bloodworth – daniel.bloodworth@cymoedd.ac.uk / 01443 663128


Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn grant hyfforddi drwy Lywodraeth Cymru. Rhaid cymeradwyo ceisiadau cyn cwblhau’ch archeb cwrs, a rhaid cwblhau’r hyfforddiant cyn diwedd mis Mawrth 2026. Telir cyllid ar ôl cwblhau’r cwrs/cyrsiau cymeradwy – bydd angen dogfennaeth ategol i gefnogi hawliad (bydd enghreifftiau o ddogfennaeth yn cael eu hegluro yn eich llythyr cymeradwyo). Siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol i drafod cyrsiau hyfforddi cymwys.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd