Llwybrau 14-16 yw darpariaeth addysg Coleg y Cymoedd ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 sy’n gadael llwybr confensiynol yr ysgol.
Dewch yn ôl yn fuan i weld ein holl gyrsiau darpariaeth amgen ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed.
CYNNIG UN
Llwybrau 14-16 Coleg y Cymoedd ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 10 ac 11.
Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc astudio pynciau galwedigaethol neu cyn-alwedigaethol mewn lleoliad coleg go iawn, gan eu helpu i adeiladu sgiliau ymarferol a magu hyder cyn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Gall dysgwyr archwilio nifer o lwybrau galwedigaethol wrth iddyn nhw weithio tuag at gymwysterau hanfodol yn y Saesneg ac mewn Mathemateg. Mae’r llwybrau yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd lleol fel dewis amgen i’r ystafell ddosbarth draddodiadol sy’n agor cyfleoedd a phrofiadau newydd.
Ar hyn o bryd mae’r rhaglen hon yn gweithredu drwy atgyfeiriad ysgol yn unig, felly siaradwch â’ch staff ysgol perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.
CYNNIG DAU
Cwrs ôl-16 rhan-amser ar gyfer pobl ifanc a oedd wedi ymddieithrio o’r ysgol neu bobl ifanc nad oeddent yn weithgar mewn addysg draddodiadol.
Bydd gan ddysgwyr fynediad at yr holl gymorth a chyfleoedd cyfoethogi sydd ar gael i bob dysgwr Coleg y Cymoedd. Mae hynny’n cynnwys Cymorth Lles, Hybiau Ymgysylltu Digidol, anogwyr Cymoedd Xtra a rhagor.
Learners will have access to all the support and enrichment available to every Coleg y Cymoedd learner. That includes wellbeing, Digital Engagement Hubs, Cymoedd Xtra coaches and more.
E-bostiwch admissions@cymoedd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais.
CYNNIG TRI
Cyfle newydd a chyffrous mewn partneriaeth â Sefydliad Dinas Caerdydd.
Mae Coleg y Cymoedd yn falch o gynnig cyfle newydd a chyffrous mewn partneriaeth â Sefydliad Dinas Caerdydd ar ein campws yn Aberdâr. Mae’r cwrs ôl-16 rhan-amser hwn yn caniatáu i ddysgwyr weithio tuag at y BTEC Lefel 1 Rhagarweiniad mewn Chwaraeon.
Mae hyn yn darparu llwybr hyblyg a diddorol i ddysgwyr sy’n dechrau eu taith mewn addysg, chwaraeon a datblygiad personol. Mae’r rhaglen ar gael ar bum lefel, o’r Wobr Ragarweiniol i’r Diploma. Mae’n adeiladu sgiliau cyflogadwyedd wrth gynyddu amlygiad i weithgareddau chwaraeon penodol yn raddol. Gall dysgwyr ymuno neu adael ar unrhyw gam oherwydd y strwythur ‘roll-on/roll-off’.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, gall dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau chwaraeon Lefel 2, prentisiaethau neu gyflogaeth mewn meysydd gan gynnwys hamdden, cymorth hyfforddi, ffitrwydd, neu rolau chwaraeon cymunedol.
E-bostiwch admissions@cymoedd.ac.uk neu info@cardiffcityfc.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais.
Gall ein dysgwyr 14-16 oed archwilio llwybrau galwedigaethol wrth iddyn nhw weithio tuag at gymwysterau hanfodol yn y Saesneg ac mewn Mathemateg.
Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc astudio pynciau galwedigaethol neu cyn-alwedigaethol mewn lleoliad coleg go iawn. Mae’n eu helpu i adeiladu eu sgiliau ymarferol a magu hyder cyn symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Mae’r Llwybrau 14-16 yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd lleol fel dewis amgen i’r ystafell ddosbarth draddodiadol. Maen nhw’nn agor cyfleoedd a phrofiadau newydd i ddysgwyr coleg cynnar.
Fel dysgwr mynediad cynnar yn y coleg, byddwch yn elwa o rai manteision anhygoel na fyddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw yn yr ysgol neu golegau eraill.
Parhewch â’ch addysg ar un o’n pedwar campws ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf.
Mae ein dysgwyr yn cael profiad dysgu bywyd go iawn drwy gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn ein salonau harddwch a’n bwytai campws.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda rhieni ac ysgolion i gynnig y cymorth ymarferol sydd ei angen ar ddysgwyr blwyddyn 10 a blwyddyn 11 i barhau â’u haddysg yn y coleg.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




