


Os ydych chi eisiau gwybod rhagor am wneud cais i brifysgol a beth mae’r tîm yn ei wneud, cliciwch ar y dolenni isod:
UCAS | At the heart of connecting people to higher education
Mae’r Cydlynydd UCAS ar gael ar gyfer apwyntiadau ar draws pob campws i gefnogi dysgwyr i gwblhau eu ceisiadau UCAS. Cysylltwch â Thîm y Dyfodol os hoffech wneud apwyntiad. Yma
Gall y Cydlynydd UCAS drefnu gweithdai datganiadau personol gyda phrifysgolion allweddol i gefnogi gyda datganiadau personol.
Gall y Cydlynydd UCAS drefnu sgyrsiau prifysgol wedi’u teilwra i’r maes pwnc y mae’r dysgwyr yn ei astudio yng Ngholeg y Cymoedd.
Yn ystod y flwyddyn academaidd trefnir ymweliadau â phrifysgolion i roi profiad o brifysgolion i ddysgwyr.
Mae Noson Wybodaeth UCAS i Rieni flynyddol wedi ei threfnu ar gyfer dydd Llun 30 Medi 2024. Bydd tocynnau ar gael i’r dysgwyr gofrestru ar Eventbrite yn nes at yr amser. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgol i ddechrau yn y brifysgol yn 2025. Cynhelir y digwyddiad ar gampws Nantgarw.
Bydd sgyrsiau prifysgol yn cael eu cyflwyno yn ystod y noson. Bydd cyfres o sgyrsiau byr, 30 munud o hyd, a gyflwynir gan gynrychiolwyr o brifysgolion yn Ne Cymru, ar bynciau fel:
proses ymgeisio UCAS
y costau ariannol sy’n gysylltiedig ag astudio Addysg Uwch
Yn ogystal, bydd Ffair AU, lle bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o brifysgolion, yn ogystal â staff o’r Coleg, yn bresennol i gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar sut y gall myfyrwyr fynd ati i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch eu hopsiynau ar ôl coleg ac i ateb cwestiynau gan fyfyrwyr a rhieni/gofalwyr.
Mae Cydlynydd UCAS yn gweithio gyda grwpiau ar draws y Coleg i godi dyheadau addysgol. Mae dysgwyr ar draws campysau yn cymryd rhan mewn rhaglenni fel ymestyn yn ehangach i gefnogi eu penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae gan y coleg aelod dynodedig o staff i gynnig cyngor ac arweiniad i ddysgwyr AU ar sut i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru/Cyllid Myfyrwyr Lloegr, a lle bo angen, cefnogi dysgwyr i drefnu asesiad diagnostig Ôl-16.
I gael gwybodaeth am wneud cais am gyllid myfyrwyr, cliciwch ar y ddolen i’r wefan isod: Hafan | Cyllid Myfyrwyr Cymru

Dewch o hyd i’r Cyrsiau Prifysgol a’r Cyrsiau Gradd gorau

Safleoedd, canllawiau a chyrsiau prifysgolion

Dysgu Rhagor am OpenLearn Wales gan Y Brifysgol Agored

Dysgwch sut y gall Cyllid Myfyrwyr Cymru eich helpu yn ariannol yn ystod eich astudiaethau
Defnyddiwch ein ffurflen ymholiad i gysylltu ag aelod o’n Tîm y Dyfodol (Cyflogaeth / Menter / Prifysgol / AU)
(*) yn dynodi meysydd gofynnol
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




