Diogelu a Llesiant

Cefnogaeth

Mae gan Goleg y Cymoedd ystod o bolisïau a mesurau i sicrhau bod pob dysgwr yng Ngholeg y Cymoedd yn cael ei gefnogi.

Rydyn ni’n cymryd diogelu o ddifrif iawn i amddiffyn pawb yn y coleg rhag cam-drin a niwed.

Polisi Diogelu

Strategaeth Llesiant 2023-26

Pob polisi a dogfen

Llesiant yng Ngholeg y Cymoedd

Mae Swyddog Llesiant ym mhob Campws Coleg y Cymoedd.

Mae Swyddogion Llesiant yn cynnig cymorth ymarferol i bob dysgwr ar draws ystod o faterion personol ac addysgol:

  • Lles emosiynol
  • Lles ariannol
  • Tai
  • Iechyd rhywiol
  • Problemau gartref
  • Cyngor ar berthynas
  • Diogelwch personol
  • Pryder
  • Sgiliau ymdopi ar gyfer arholiadau ac asesiadau

Cwrdd â’ch Swyddogion Llesiant

Trefnwch apwyntiad drwy e-bostio’r Tîm Llesiant ar: wellbeing@cymoedd.ac.uk, neu ymweld â nhw yn y coleg.

Dyma’r Swyddogion Llesiant dynodedig ar bob campws:

  • Carolyn Owen
  • Frank ein ci lles
  • Steven Thomas
  • Emma Borland
  • Nicole Gregory
  • Paul Sutton
  • Lauren Samuel
  • Laura Wilson

Cyfrinachedd

Rydym am i chi deimlo fel y gallwch siarad â’r Tîm Llesiant a Diogelwch am unrhyw beth ac mae eu gwasanaethau yn gyfrinachol.

Mae dyletswydd i roi gwybod am bryderon sylweddol ac ni fydd cyfrinachedd yn berthnasol os yw dysgwr neu rywun arall mewn perygl o niwed. Darllenwch ein strategaeth Llesiant 2023-2026 i ddysgu rhagor.

Cymorth llesiant ychwanegol

Gall y tîm Llesiant a diogelu gynnig cymorth mwy wedi’i dargedu i ddysgwyr sydd ei angen, gan gynnwys:

  • Gofalwyr ifanc ac oedolion
  • Plant mewn gofal – ‘Plant sy’n Derbyn Gofal’ (CLA)
  • Pobl ifanc sy’n gadael gofal

Diogleu yng Ngholeg y Cymoedd

Rydyn ni’n gweithio’n galed i gadw ein holl ddysgwyr yn ddiogel. Mae gan bob campws Gydlynydd Diogelu dynodedig sy’n rhan o’r Tîm Llesiant a Diogelu.

Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu am rywun rydych chi’n ei adnabod, chwiliwch am y cortynnau porffor. Mae’r rhain yn cael eu gwisgo gan aelodau o staff y gallwch gysylltu â nhw am gefnogaeth drwy gyfnodau anodd. Gallwch hefyd fynd at eich tiwtor am help a chyngor.

Mae Cydlynwyr Diogelu yn ymateb i bob adroddiad o ddysgwr sydd mewn perygl o niwed sylweddol neu sy’n destun cam-drin anghyfreithlon a byddant yn gweithredu yn unol â:

Ein pennaeth Llesiant a Diogelu yw Hannah McDowell (hannah.mcdowell@cymoedd.ac.uk).

Radicaleiddio ac eithafiaeth

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i leihau radicaleiddio ac eithafiaeth, er mwyn cadw ein holl ddysgwyr yn ddiogel.

Rydym yn dilyn canllawiau gan Prevent, strategaeth Llywodraeth genedlaethol sy’n gwrthsefyll terfysgaeth, radicaleiddio a safbwyntiau eithafol. Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn rhannu safbwyntiau eithafol, siaradwch â’r Tîm Llesiant a Diogelu.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Newyddion a Blogiau Newyddion ALN Ap Coleg y Cymoedd