Cyllid CITB

Pwy all gael gyrchu cyllid CITB?

Fel Sefydliad Hyfforddi Cymeradwy CITB, gallwn ddarparu hyfforddiant a gymeradwywyd gan CITB drwy gyllid a grantiau CITB.

Mae cyllid a grantiau CITB ar gael i gyflogwyr cofrestredig CITB – Nid oes angen i chi fod yn talu ardoll i gyrchu’r rhain. Gellir trafod cymhwystra a chyrsiau cymwys gyda’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol.

Sut ydw i’n cyrchu cyllid CITB?

Siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol i drafod cyllid a grantiau CITB, meini prawf cymhwystra a’r cyrsiau sydd ar gael.

Cyflogwyr yng Nghaerffili a’r cyffiniau
William Keep – william.keep@cymoedd.ac.uk / 01443 663128

Cyflogwyr yn RhCT a’r ardal gyfagos
Paul Rees – paul.rees@cymoedd.ac.uk / 01443 663128
Daniel Bloodworth – daniel.bloodworth@cymoedd.ac.uk / 01443 663128

Os ydych wedi’ch lleoli y tu allan i ardal Caerffili neu RhCT, gallwch gysylltu ag unrhyw un o’n Swyddogion Ymgysylltu â Chyflogwyr uchod.

Pa gyllid sydd ar gael?

Fel Darparwr Hyfforddiant Cymeradwy, gallwn gefnogi’ch busnes i wneud y mwyaf o gyllid CITB i uwchsgilio eich gweithlu a diogelu eich busnes i’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau byr hanfodol, NVQs, Diplomâu a hyd yn oed LGV (HGV)! Siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol am fanylion llawn.

Grantiau CITB

Mae Grantiau CITB ar gael i gyflogwyr cofrestredig CITB o bob maint (nid oes rhaid i chi fod yn talu ardoll i fod yn gymwys ar gyfer hyn).

Gall cyflogwyr wneud cais am grantiau i gefnogi gyda ffioedd ar gyfer cyrsiau byr cymwys. Mae cyfraddau grant yn dibynnu ar y cymhwyster a gyflawnir a byddant yn daladwy dim ond ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol i drafod grantiau CITB.

Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB

Drwy Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB, gall cyflogwyr gyrchu rhwng £2500 a £25k i fuddsoddi mewn hyfforddiant. Mae’r swm sy’n hygyrch yn dibynnu ar faint y busnes. Gellir ond ei ddefnyddio ar gyfer cymwysterau cymwys a gellir gwneud cais amdano ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis.

Gall pob cyflogwr cofrestredig CITB gyrchu’r gronfa hon – Nid oes rhaid i chi fod yn talu ardoll i fod yn gymwys.

Siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol i drafod Cronfa Sgiliau a Hyfforddiant CITB.

Rhwydwaith Cyflogwyr CITB

Gall cyflogwyr cofrestredig CITB arbed 70% ar gyrsiau cymwys drwy’r Rhwydwaith Cyflogwyr. Mae hyn ar gael i gyflogwyr o bob maint – Nid oes rhaid i chi fod yn talu ardoll i fod yn gymwys.

Drwy fenter Rhwydwaith Cyflogwyr CITB, gall cyflogwyr cofrestredig CITB arbed 70% ar gyrsiau drwy’r fenter. Mae’r fenter yn cael ei llywio gan y diwydiant, sy’n golygu bod yr hyfforddiant sydd ar gael yn adlewyrchu’r gofynion sgiliau presennol a dyfodol y sector adeiladu.

Siaradwch â’ch Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr lleol i drafod Rhwydwaith Cyflogwyr CITB.

Os ydych wedi cofrestru â CITB a diddordeb mewn cael gafael ar gyllid CITB, cysylltwch â ni.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd