
Dewch i fwynhau eich dewis o’n bwydlen flasus am brisiau gwir resymol yn Ystrad Mynach, Aberdâr, Nantgarw neu’r Rhondda.
Mae pedwar bwyty hyfforddi Coleg y Cymoedd yn cynnig bwydydd cain ar garreg eich drws. Mae’r bwytai’n cael eu rhedeg ar y cyd gan staff a dysgwyr ac maen nhw ar agor i’r cyhoedd.
Mae ein dysgwyr arlwyo a lletygarwch ar bob campws yn cael eu hyfforddi i’r safonau uchaf gan ein tîm proffesiynol. Neilltuwch eich bwrdd heddiw.
Mae bwytai Coleg y Cymoedd ar agor yn ystod y tymor coleg ac ar gau yn ystod yr hanner tymor a gwyliau’r haf (o ddiwedd Mehefin hyd ddechrau Medi).
I neilltuo bwrdd, cysylltwch â’r bwyty’n uniongyrchol.
Dyma farn ein cwsmeriaid am ein gwasanaeth a’n bwyd.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





