Personal Learning Account (PLA)

Beth ydy Cyfrif Dysgu Personol (CDP/PLA)?

Mae’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn cynnig cymorth ar draws Cymru ar gyfer pobl gymwys i ennill sgiliau uwch eu lefel a fydd yn galluogi’r unigolion hyn i gyrchu ystod ehangach o swyddi a/neu gyflogaeth uwch ei lefel.

Nod sylfaenol rhaglen Cyfrif Dysgu Personol ydy galluogi pobl i uwchsgilio ac ail-sgilio yn y sectorau â blaenoriaeth, i wella eu gyrfa a’u darpar enillion.

Ydw i’n gymwys ar gyfer y Cyfrif Dysgu Personol ?

Profir cymhwyster ar adeg gwneud y cais. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Rhaid i unigolion:

  • Fod yn byw yng  Nghymru
  • Bod yn 19 oed neu drosodd (profir hyn ar ddechrau’r cwrs)

Hefyd, rhaid i unigolion ddiwallu o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • Cyflogedig (yn cynnwys hunan-gyflogedig) yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,174*
  • Gweithwyr ar gontractau dim oriau* (yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,174*)
  • Staff asiantaeth* (yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,174*)
  • Troseddwyr  ryddheir am y dydd* (yn ennill llai na’r incwm canolrifol o £32,174*)
  • Gofalwyr llawn amser (â thâl a rhai di-dâl)*

Ni fydd unigolion yn gymwys ar yr adeg gwneud cais os ydyn nhw’n un o’r canlynol:

  • O dan 19 oed
  • Mynychu ysgol neu goleg llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr
  • Mewn addysg uwch llawn amser
  • Yn mynychu Dysgu yn Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru
  • Gwladolyn tramor anghymwys
  • Yn derbyn Grant Dysgu’r Cynulliad neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Di-waith h.y. heb gontract cyflogaeth (oni bai eu bod yn diwallu un o’r meini prawf cymeradwy)

Fel rhan o’ch cais am arian, gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth adnabod(ID) ategol yn dystiolaeth o’ch cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys:Os yn gyflogedig: 3x slip cyflog y 3 mis diwethaf. (Bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm yn disgyn o dan y trothwy)Os yn hunan-gyflogedig, tystiolaeth o rif UTR a HEFYD tystiolaeth o incwm y 3 mis diwethaf (e.e. cyfrifon/ anfonebau banc), (bydd tîm y CDP yn defnyddio hyn i benderfynu a ydy’ch incwm o dan y trothwy).Os mewn perygl o gael eu diswyddo: Llythyr gan eich cyflogwr bod eich swydd mewn perygl.Os yn staff asiantaeth: 3x slip talu y 3 mis diwethaf (os yn bosibl – os na allwch eu cynnig, trafodwch gyda’r tîm pan fyddwn yn cysylltu â chi ar ôl cyflwyno’ch cynllun hyfforddi)


Sylwer, mai dim ond 90 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’ch Cynllun Hyfforddi sydd gennych i gwblhau eich cais am arian, ar gyfer cymeradwyo’ch cais ac i gael eich ymrestru ar eich dewis gwrs. Os bydd eich cais yn hwyr, efallai na fyddwch yn gallu symud ymlaen gyda’ch cais cyfredol ac y byddwch angen cychwyn ar gais newydd am arian.

Os bydd eich ffurflen gais gychwynnol (Cynllun Hyfforddiant) yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am eich dogfennau adnabod ategol. Ar gyfer eich dogfennau adnabod ategol, bydd angen i chi ddarparu copïau clir heb eu golygu o’r dogfennau cymeradwy a restrir isod (lleiafswm o un ddogfen fesul grŵp) i ddangos tystiolaeth o’r wybodaeth a gofnodir ar eich ffurflenni cais. Casglwch y wybodaeth hon wrth ichi gyflwyno eich cais i baratoi ar gyfer derbyn e-bost gennym ni – Os ydych yn cael trafferth cael un o’r dogfennau cymeradwy, siaradwch ag aelod o’r tîm i drafod dewisiadau amgen posibl.


Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Adeiladwaith

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Cynllun Hyfforddi Diogelwch Safle CITB (SMSTS)PCR Global
Cynllun Hyfforddi Diogelwch Goruchwylio Safle CITB (SSSTS)PCR Global
NPORS N010 Triniwr Telesgopig (Dechreuwyr yn unig)The Construction Hub Academy
NPORS N202 Cloddiwr 360 (Dechreuwyr yn unig)The Construction Hub Academy
NPORS N204 Dadlwythwr Tomenni Blaen (Dechreuwyr yn unig)The Construction Hub Academy
NPORS N205 Dadlwythwr Tomenni Cefn (Dechreuwyr yn unig)The Construction Hub Academy
NPORS N209 Rhaw Llwytho (Dechreuwyr yn unig)The Construction Hub Academy
NPORS N214 Rholiwr Ffordd (Dechreuwyr yn unig)The Construction Hub Academy

Defnyddiwch broffiliau ein cyrsiau isod i weld rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Datblygiad a Lles Plant

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
CBAC Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: CraiddColeg y Cymoedd

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Peirianneg

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Diploma Lefel 2 City & Guilds Peirianneg – Technoleg Gweithgynhyrchu (2850-24)N-Ergy
Diploma EAL Lefel 3 Technegau Gwella BusnesCreative Difference

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Cadwraeth Amgylcheddol

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Diploma City & Guilds Lefel 2 Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith (Cadwraeth Amgylcheddol)N-Ergy
Diploma City & Guilds Lefel 3 Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith (Cadwraeth Amgylcheddol)N-Ergy

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
City & Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolColeg y Cymoedd
City & Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolColeg y Cymoedd
City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: CraiddColeg y Cymoedd

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Garddwriaeth a Choedwigaeth

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Diploma City & Guilds Lefel 2 Garddwriaeth Seiliedig ar WaithN-Ergy

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Dyfarniad Qualsafe Lefel 2 Diogelwch Bwyd mewn ArlwyoColeg y Cymoedd
Dyfarniad Qualsafe Lefel 3 Arolygu Diogelwch Bwyd mewn ArlwyoColeg y Cymoedd

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Ymarferwyr Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Trafnidiaeth

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Dyfarniad IMI Lefel 2 Cynnal a Chadw Cerbydau Trydan / HybridColeg y Cymoedd
Dyfarniad Qualsafe Lefel 3 Arolygu Diogelwch Bwyd mewn ArlwyoColeg y Cymoedd

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Adeiladwaith

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Dyfarniad ABBE Lefel 3 Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a ThraddodiadolThe Environment Study Centre
Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Aseswyr Ôl-ffitioThe Environment Study Centre
Diploma ABBE Lefel 5 Cydlynu Ôl-ffitio ac Asesu RisgThe Environment Study Centre
Tystysgrif ABBE Lefel 3 Asesiad Ynni DomestigThe Environment Study Centre

Defnyddiwch broffiliau ein cyrsiau isod i weld rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Cadwraeth Amgylcheddol

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
Tystysgrif City & Guilds Lefel 2 mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd GwyrddN-ergy

Defnyddiwch broffiliau ein cyrsiau isod i weld rhagor o wybodaeth am y cwrs.


Cliciwch yma i weld ein cyrsiau Ymarferwyr TGCh

Teitl y CwrsDarparwr Hyfforddiant
AWS Ymarferydd Cwmwl Ardystiedig – SylfaenolAspire 2be
AWS Datblygwr Ardystiedig  – CyswlltAspire 2be
AWS Peiriannydd DevOps Ardystiedig – ProffesiynolAspire 2be
AWS Dysgu Peiriannau Ardystiedig – ArbenigeddAspire 2be
AWS Pensaer Datrysiadau Ardystiedig – CyswlltAspire 2be
Addysgwr Ardystiedig Microsoft (MCE)Aspire 2be
Microsoft Ardystiedig: Hanfodion Data AzureAspire 2be
Microsoft Ardystiedig: Hanfodion AzureAspire 2be
Microsoft Ardystiedig: Hanfodion Dynamics 365 (CRM)Aspire 2be
Microsoft Ardystiedig: Dadansoddwr Cyswllt Power BI DataAspire 2be
Microsoft Ardystiedig: Hanfodion PowerPlatformAspire 2be

Defnyddiwch broffiliau ein cyrsiau isod i weld rhagor o wybodaeth am y cwrs.

Doc Store block is missing files


Sut ydw i’n Gwneud Cais?

01

Dewis eich cwrs

Gyda’n rhestr helaeth o’r cyrsiau sydd ar gael o dan y Cyfrif Dysgu Personol, rydyn ni’n hyderus y dewch o hyd i’ch cwrs perffaith.

02

Cynllun Hyfforddi

Cychwynnwch ar eich cais am Gyfrif Dysgu Personol drwy gwblhau a chyflwyno Cynllun Hyfforddi ar-lein yma.

03

Gwiriwch eich e-bost

Ar ôl i ni adolygu’ch Cynllun Hyfforddi, bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am ddogfennau ychwanegol i gwblhau eich cais am gyllid.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau a dychwelyd y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn peidio â’ch siomi. Sylwch, ni ymatebir i unrhyw gyflwyniad anghymwys.

04

Cychwyn eich cwrs

Ar ôl i chi ddychwelyd eich dogfennau ychwanegol a bod y cyllid wedi’i gymeradwyo, fe weithiwn gyda chi i sicrhau’r dyddiad cychwyn fyddai orau i chi.

Sylwer, os cynhelir eich cwrs drwy bartner hyfforddi, nhw fydd yn cwblhau’r cam hwn gyda chi. Gellir cychwyn unrhyw cwrs dan arweiniad personol yn syth.


Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Newyddion a Blogiau Newyddion ALN Ap Coleg y Cymoedd