Dylai bywyd coleg fod yn gydbwysedd da. Fel dysgwr gyda ni, byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn ehangu gorwelion, datblygu sgiliau a chyfrannu at gymuned Coleg y Cymoedd a chymunedau ehangach.
Mae Cymoedd Xtra yn cynnig gweithgareddau a fydd yn rhoi’r cyfle ichi roi cynnig ar rywbeth newydd, cymryd rhan mewn rhywbeth yr ydych yn ei garu a gwneud ffrindiau newydd.
Bob wythnos cynhelir gweithgareddau a chlybiau amrywiol ar ein campysau. Er mwyn gweld beth sy’n digwydd bob wythnos, edrychwch ar Cymoedd Xtra yn ap y coleg, neu ar yr hysbysfyrddau/sgriniau digidol ar y safle.
Mae dysgwyr yn ganolog i’r hyn a wnawn. Mae Llais y Dysgwr yn digwydd sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ac mae’n gyfle i chi fel dysgwr drafod bywyd yng Ngholeg y Cymoedd gyda thîm rheoli’r coleg – beth hoffech chi ei weld, beth sy’n gweithio, beth sydd ddim, sut i wella pethau.
Mae Llysgenhadon Dysgwyr yn chwarae rhan bwysig iawn ym mywyd y coleg. Mae eu rôl yn golygu eu bod yn cynorthwyo mewn digwyddiadau coleg, yn helpu dysgwyr/ymgeiswyr newydd mewn Digwyddiadau Agored, Nosweithiau Cyfweld, Sesiynau Blasu. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Llysgennad siaradwch â’ch tiwtor cwrs – mae’n anrhydedd anhygoel i’w roi ar eich CV hefyd!