Bioleg UG ac U2

Bydd Lefel UG a Lefel A Bioleg yn gwella’ch dealltwriaeth a’ch gwerthfawrogiad o organebau byw, sut mae’n nhw’n gweithredu a rhyngweithio gyda’i gilydd.


Byddwch yn astudio, trafod ac ymchwilio i bynciau yn y newyddion gyda ffocws ar agweddau o'r 'Byd Byw' megis Bioleg Celloedd, Biocemeg, Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau'r Corff. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys cynllunio arbrofion a chasglu data, dadansoddi canlyniadau arbrofion a dod i gasgliadau.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Mae Bioleg UG yn cynnwys 2 Uned ac mae Bioleg A2 yn cynnwys 3 uned.


UG Uned Un Biocemeg Sylfaenol a Chyfundrefn. Caiff strwythur moleciwlaidd y moleciwl biolegol ei archwilio drwy fiocemeg ymarferol a damcaniaethol gan gynnwys trefn y moleciwlau o fewn celloedd. Astudir uwch strwythur y gell a swyddogaeth y darnau cydrannol, ynghyd ag astudio strwythur meinwe ac organau planhigion ac anifeiliaid a'u cymharu â strwythur micro-organebau a firysau. Rhoddir sylw hefyd i'r côd genetig a'i swyddogaethau mewn synthesis protein ac ymraniad niwclear. UG Uned Dau Bioamrywiaeth a Ffisioleg Systemau'r Corff Archwilir cyd-destun tarddiad esblygol bioamrywiaeth o fewn systemau traddodiadol a modern dosbarthiad a thrwy gymhwyso technegau samplo ymarferol ar gyfer mesur bioamrywiaeth. Caiff dethol naturiol ac addasiadau organebau ar gyfer cyfnewid nwyon, symud a maethiad hefyd eu hastudio. Mae Bioleg A2 yn ymgorffori uned tri, Ynni, Homeostasis a'r Amgylchedd a gelwir uned pedwar yn Amrywiad, Etifeddiaeth, Imiwnoleg a Chlefyd. Yn ychwanegol, mae Uned 5 yn Arholiad Ymarferol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Byddwch angen 5 TGAU graddau A *-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg iaith, ynghyd â gradd B mewn mathemateg a BB mewn gwyddoniaeth ychwanegol neu B mewn TGAU Bioleg.


Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy arholiadau ac arholiad ymarferol.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud cais i brifysgol a chael cynnig lle i astudio cyrsiau megis Bioleg, Swoleg, Botaneg, Nyrsio, Meicrobioleg, Biocemeg, Parasitoleg, Deintyddiaeth, Meddygaeth neu Filfeddygaeth neu unrhyw yrfa sy’n golygu gwahanol waith labordy. Pa bynnag yrfa fyddwch chi'n ddewis, mae'n werth nodi bod gan raddedigion y Gwyddorau Biolegol hanes da o gael swyddi. Mae nifer o fyfyrwyr yn symud ar eu hunion i gyflogaeth neu’n symud ymlaen ar raglen brentisiaeth.

Nodiadau Pellach

Suggested subject partners:
AS Chemistry, Maths, Physics, Psychology
BTEC Sport

This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme

A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme

Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Course Subject/Option
Dyddiad:01/09/2026
Dyddiau:Full Time - To be arranged
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:GEF303NL
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd