• Lefel UG Uned 1: Mae'r uned hon yn canolbwyntio ar rôl y teulu a sut rydym yn dysgu bod yn aelodau o gymdeithas. Mae'n cynnwys diffinio'r teulu, archwilio perthnasoedd yn y teulu a materion megis amrywiaeth, rolau rhyw, priodas ac ysgariad.
Uned 2: Mae'r uned hon yn annog myfyrwyr i archwilio natur ac ymarfer ymchwilio cymdeithasol ac mae'n cynnwys astudio'r amrywiol ddulliau a ddefnyddir gan gymdeithasegwyr yn eu hymchwil. Mae hefyd yn cynnwys diffiniadau o derminoleg, patrymau a thueddiadau addysgol ynghylch cyflawniadau grwpiau cymdeithasol gwahanol yn ôl dosbarth, rhyw, ethnigrwydd a chymdogaeth, ac esboniadau cymdeithasegol o'r tueddiadau hyn. • Lefel U2 Uned 3: Mae'r uned hon yn edrych ar batrymau a thueddiadau troseddu, esboniadau cymdeithasegol o drosedd, asiantau rheolaeth gymdeithasol, a rôl y cyfryngau mewn pethau megis panegau moesol. Uned 4: Mae'r uned hon yn gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio eu gwybodaeth am ddulliau cymdeithasegol. Hefyd, mae’n cynnwys astudio anghydraddoldeb cymdeithasol sy'n cynnwys edrych ar batrymau a thueddiadau anghydraddoldeb yn ein cymdeithas, a'r esboniadau cymdeithasegol ar gyfer yr anghydraddoldeb hwn.
Mae angen 5 TGAU Graddau A*- C gan gynnwys Iaith Saesneg. Does dim rhaid eich bod wedi astudio Cymdeithaseg ar gyfer TGAU.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad ac asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Cewch eich asesu 100% drwy arholiad.
Mae Cymdeithaseg yn ddefnyddiol ar gyfer ystod o gyrsiau prifysgol a gyrfaoedd, gan gynnwys: gwaith cymunedol, rheoli tai, addysgu, rheoli personél, heddlu, gwasanaeth prawf, gweinyddiaeth sector cyhoeddus, gwaith cymdeithasol a gwaith cyngor lles.
This subject is part of the full time A level Programme. To apply for this subject you need to apply for the A Level or Combined Programme
A Level Programme - You will need to choose 3 or 4 AS Levels to study the A Level Programme
Combined Programme - You will need to choose 1 or 2 AS Levels combined with a vocational option. Vocational options include: Applied Science, IT, Business, Criminology, Law, Sports and Exercise Sciences, or Health and Social Care.