Byddwch yn astudio Saesneg Llên, Cymdeithaseg, Seicoleg a'r Gyfraith, i gyd ar Lefel 3. Byddwch hefyd yn astudio Cyfathrebu a Sgiliau Astudio ar Lefel 3 a Rhifedd ar Lefel 2. Astudir ystod o unedau ar gyfer pob maes pwnc.
Bydd angen TGAU Cymraeg/Saesneg Iaith a TGAU Mathemateg/Rhifedd graddau A*-C neu Sgiliau Hanfodol Cymru Rhifedd a Chyfathrebu Lefel 2 neu gwblhau diploma Sgiliau Astudiaeth Bellach neu gymhwyster galwedigaethol Lefel 2
Cewch eich asesu’n barhaus gydag o leiaf un asesiad dan reolaeth ac heb ei weld o’r blaen ym mhob maes pwnc. Caiff aseiniadau eu graddio fel hyn – Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau’ch cwrs a phob portffolio i’r safonau gofynnol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch wneud cais i brifysgol am le ar gyrsiau gradd Anrhydedd mewn ystod eang o gyrsiau’n seiliedig ar y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol neu chwilio am swydd. Ymhlith y cyfleoedd gradd mae: addysgu, gwaith cymdeithasol, tai, gwaith ieuenctid, y gwasanaeth prawf, troseddeg, cwnsela a gwaith therapiwtig yn ogystal â’r Gyfraith, Cymdeithaseg, Seicoleg a Saesneg.