Byddwch yn astudio unedau mewn Cymdeithaseg, Seicoleg, Anatomi Dynol, Astudiaethau Iechyd. Rhifedd a Chyfathrebiadau. Astudir pob maes pwnc a chyfathrebiadau ar Lefel 3; astudir Rhifedd ar Lefel 2.
Mae’r cwrs yn cynnwys 60 credyd ac mae gofyn llwyddo i gyflawni pob credyd i ennill y Diploma Mynediad.
2 TGAU gradd C i gynnwys Iaith Saesneg neu Cymraeg Mamiaith a Mathemateg neu Rhifedd neu gwblhau asesiad mynediad mewn Llythrennedd a Rhifedd. Bydd angen asesiad mynediad os ydy’r cymwysterau yn hyn na 3 blynedd neu nad ydych yn meddu ar TGAU blaenorol.
Cewch eich asesu'n barhaus, traethodau, prosiectau, a chyflwyniadau llafar gyda rhai profion ar ddiwedd uned. Bydd disgwyl i chi hefyd gynnal ffeiliau eich cwrs a phob portffolio i’r safon angenrheidiol.
Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch wneud cais am gyrsiau gradd Anrhydedd mewn Addysg Uwch mewn amrediad eang o gyrsiau perthynol i iechyd mewn prifysgol neu sefydliad addysg uwch o’ch dewis.







