Pobl â Nam ar eu Golwg

Nod y cwrs yw galluogi pobl â gwahanol raddau o nam ar eu golwg i ddatblygu sgiliau cyfrifiadur neu lechen. Mae’r cwrs ar gyfer pobl o wahanol alluoedd, o ddechreuwyr pur i’r rhai â gwybodaeth a phrofiad blaenorol. Cyflwynir y cwrs i rai â nam ar eu golwg ar Gampws Nantgarw. Mae'n gwrs rhan amser a addysgir am ddwy awr yr wythnos rhwng mis Medi a diwedd mis Mehefin, ond fel arfer mae modd cychwyn ar ôl y dyddiad cychwyn.


Darperir cefnogaeth ychwanegol gan Gynorthwywyr Cymorth Dysgu. Wrth gwblhau'r cwrs, bydd dysgwyr wedi cynyddu eu hyder, eu hannibyniaeth a'u gallu i ddefnyddio gwahanol dechnoleg sy'n ddefnyddiol ar gyfer bywyd bob dydd. Hefyd, os yw'n berthnasol, byddant wedi datblygu’r sgiliau TG sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer astudio neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd yn magu eich hyder wrth ddefnyddio cyfrifiadur neu wahanol apiau. Gall y cwrs gynnig amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd ac e-bost; teipio cyffwrdd; defnyddio amryw o raglenni Microsoft Office neu sut i ddefnyddio cyfrifiadur llechen. Bydd yn galluogi dysgwyr i gael mynediad at feddalwedd lleferydd a/neu chwyddo arbenigol, fel Jaws neu Supernova, ac i ddefnyddio gosodiadau hygyrchedd ar gyfrifiaduron llechen ac apiau addas.


Beth fydda i'n ei ddysgu?

Nid oes meini prawf mynediad ffurfiol.


Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb mewn mynychu'r coleg am sgwrs anffurfiol i drafod eu hanghenion, i bennu’r ffordd orau o weithio iddynt ac i ddod i ddeall y gosodiadau gwahanol y gallai fod eu hangen arnynt ar y cyfrifiadur neu'r llechen, sy'n berthnasol i'w cyflyrau llygaid penodol.

Asesiad

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd myfyrwyr yn ennill uned sy'n gysylltiedig â bwrdd cymwysterau Agored Cymru. Asesir drwy bortffolio, a lunnir yn ystod y gwersi yn y dosbarth. Nid oes unrhyw arholiadau.

Dilyniant Gyrfa

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech wneud unedau pellach Agored Cymru neu symud i gyrsiau eraill yn y coleg.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Mynediad
Modd:Rhan Amser Day
Dyddiad:09/09/2024
Dyddiau:Monday
Amser:10:00 - 12:00
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:ISPE30NA
Ffioedd
Tuition Fee: £0

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau