Byd Ar-lein, Systemau Technoleg, Portffolio Digidol, Creu Graffeg Ddigidol, Datblygu Cronfeydd Data, Datblygu Meddalwedd, Gosod a Chynnal Caledwedd Cyfrifiadurol a Datblygu Cynhyrchion Amlgyfrwng.
Bydd arnoch angen 4 TGAU gradd A* i D (gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf)) neu Lefel 1 mewn Cyfrifiadureg/TG gyda TGAU Saesneg/Cymraeg a Mathemateg/Rhifedd gyda Gradd D neu’n uwch. Byddai cymhwyster maes galwedigaethol cysylltiedig gyda phrofiad addas yn cael ei ystyried.
Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad ac yn sefyll asesiad mewn llythrennedd a rhifedd er mwyn pennu a oes angen unrhyw gymorth. Yng Ngholeg y Cymoedd byddem yn eich annog i wneud y gorau y gallwch yn eich asesiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi a gall olygu y byddwch yn cael mynediad at gwrs lefel uwch.
Yn cynnwys dau brawf allanol – Byd Ar-lein a Systemau Technoleg yn ogystal ag ystod o asesiadau a osodir yn fewnol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ysgrifenedig a llafar. Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn creu Portffolio Digidol i arddangos y gwaith a'r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs.
Mae ein dysgwyr blaenorol wedi symud ymlaen i'r cwrs L3 mewn Cyfrifiadureg, Cyfryngau Creadigol, Peirianneg a Busnes. Mae'r cwrs hwn hefyd yn paratoi dysgwyr ar gyfer y gweithle maes o law.