Byddwch yn dysgu amrywiaeth o fodiwlau* gan gynnwys y canlynol:
Systemau Cyfrifiadurol a Phensaernïaeth Gyfrifiadurol Offer a Thechnegau Seiberddiogelwch Systemau Gwybodaeth Technolegau Rhwydwaith ar Waith Rhaglennu ar gyfer Seiberddiogelwch *Yn amodol ar newid i adlewyrchu angen y diwydiant.
Mae Coleg y Cymoedd yn ystyried pob cais yn unigol sy’n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol a gall cymwysterau eraill nad ydynt wedi'u rhestru fod yn dderbyniol hefyd. Cynnig Safon Uwch nodweddiadol - DD sy’n cynnwys Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth Cynnig BTEC nodweddiadol - Pas Pas Diploma Estynedig BTEC neu Bas Pas Diploma BTEC
Gofynion Ychwanegol TGAU: Mae'r Brifysgol fel arfer yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Gradd C/Gradd 4 neu’n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. Fe'ch gwahoddir i fynychu cyfweliad gydag un o'r tîm Cyfrifiadura.
Byddwch yn cael eich asesu drwy nifer o ddulliau asesu megis gwaith ymarferol, ysgrifennu traethodau, gwaith portffolio ac asesiad wedi'i amseru ar y safle.
Gall dysgwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn ddisgwyl symud ymlaen i faes y mae galw mawr amdano ledled y byd. Ymhlith y llwybrau gyrfa posibl mae rolau technegol fel, • profwr hacio • datblygwr meddalwedd diogel • gweinyddydd diogelwch rhwydwaith. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn gallu chwilio am rolau gyda gorfodaeth gyfreithiol, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghori ar ddiogelwch ac adrannau TG masnachol. O’r HNC byddwch yn gallu symud ymlaen i’r HND Seiberddiogelwch, ac o’r fan honno byddwch yn gallu dilyn cwrs atodol er mwyn cael gradd lawn mewn Seiberddiogelwch.