Blwyddyn 1 Lefel 4 Arfer Proffesiynol mewn Cyfrifiadureg Datblygu Meddalwedd Dadansoddi a Dylunio Systemau Gwybodaeth 1 Cysyniadau Rhwydweithio a Systemau Cyfrifiadurol Rhaglennu Cyfrifiadurol 1 Datblygiad Gwe Datrys Problemau ar gyfer Cyfrifiadureg
Blwyddyn 2 Lefel 5 Datblygu Realiti Rhithwir Dadansoddi a Dylunio Systemau Gwybodaeth 2 Astudio'n Annibynnol Datblygiad Gwe Ymatebol Dysgu yn Seiliedig ar Waith o dan Oruchwyliaeth
1) Cwblhau rhaglen lefel 3 flaenorol. (BTEC lefel 3 ac ati) * 2) Bydd myfyrwyr hyn, sef dros 21 oed, yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad lle gallant ddangos cymhwysedd ar gyfer y cwrs. 3) Y gofynion derbyn ar gyfer rhaglen gradd israddedig yw 80 pwyn
Asesir drwy weithgareddau gwaith cwrs yn yr unedau a astudir. Yn nodweddiadol, bydd y rhain yn gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth a addysgir i gwblhau amcanion gwaith cwrs. Er enghraifft, ym maes Datblygu Gwefan byddwch yn cael eich addysgu sut i greu gwefan ryngweithiol fodern, yna bydd disgwyl ichi greu gwefan yn seiliedig ar frîff galwedigaethol a roddir gan gleient. Mae gan rai unedau brofion bach yn y dosbarth fel mathemateg a bydd yr uned lleoliad gwaith, ym mlwyddyn 2, yn gofyn am gwblhau nifer benodol o oriau gyda chyflogwr.
Ar ôl cwblhau'r cwrs gallwch symud yn syth i weithio yn y diwydiant technoleg gwybodaeth. Gallwch astudio cwrs ategol am flwyddyn er mwyn cael gradd lawn o Brifysgol De Cymru os dymunwch. Mae'r Radd Sylfaen Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn gymhwyster cyflawn ynddo'i hun gydag ardystiad a seremoni raddio cap a gwn gan Brifysgol De Cymru. Ar ôl cwblhau’r cwrs gallwch symud yn syth i weithio yn y diwydiant technoleg gwybodaeth, neu gallwch astudio cwrs ategol yn y brifysgol er mwyn cael gradd lawn. **Symudwch ymlaen i Radd Lawn gydag un flwyddyn o astudio ychwanegol ym Mhrifysgol De Cymru: Dilyniant awtomatig i flwyddyn olaf BSc Anrh Cyfrifiadura Cymhwysol PDC. Cymhelliant bwrsariaeth ychwanegol o £1000 i bob dysgwr. (Newydd).**
Cyfleusterau
Ystafell gyfrifiaduron gyda mynediad at yr holl feddalwedd a chaledwedd sydd eu hangen ar gyfer y cwrs.
Clustffonau Rhithrealiti a Chyfrifiaduron Gemau Manyleb Uchel
Rydyn ni’n defnyddio meddalwedd Adobe Creative Cloud safonol y diwydiant (Photoshop, Dream Weaver, Animate ac ati).
QGIS, stiwdio weledol, Office 365 (Teams, Power Point Word, OneNote, One Drive).
Gallwch osod fersiynau trwyddedig llawn o apiau Office 365 gartref gan ddefnyddio eich rhif adnabod coleg yn ogystal â gofod OneDrive 1TB.
Mae Gliniaduron ar gael i ddysgwyr ofyn amdanynt wrth astudio'r cwrs ar gyfer gweithio o gartref.
Atodwch lun o'r cyfleusterau/ystafell (os oes gennych un) i'r e-bost. Byddaf yn anfon rhai lluniau wedi'u diweddaru ymlaen yn fuan.
HE Fees are subject to change














