Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith a/neu ddilyniant gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu leoliadau iechyd. Mae'n cyfuno'r ddwy uned ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle, gyda gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol.
Mae’r elfen ymarfer yn y cymhwyster hwn yn adlewyrchu elfen y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer. Mae’r agwedd ddamcaniaethol yn darparu gwybodaeth i ddysgwyr am faterion sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant plant a dealltwriaeth eang o wasanaethau iechyd a gofal plant. Mae’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i ddysgwr eu cyflawni o fewn y cymhwyster hwn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Y prif ffocws ydy datblygu’ch gwybodaeth a’ch profiad mewn lleoliad gofal plant tra’n dysgu’r theori yn y coleg. Datblygu’n holistaidd i wella a chadarnhau’ch sgiliau mewn amgylchedd ymarferol. Byddwch hefyd yn astudio TGAU Iaith Saesneg neu Mathemateg
3 TGAU graddau C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg neu Rhifedd Iaith Saesneg neu Cymraeg Iaith Gyntaf. ** Gofal Plant Bydd angen gwiriad DBS llwyddiannus ar gyfer y cwrs
Bydd asesiad ar eich sgiliau ymarferol yn digwydd yn eich lleoliad gwaith a byddwch yn cwblhau papur o gwestiynau aml-ddewis ac arholiad yn y coleg.
Ar ôl cwblhau eich Diploma’n llwyddiannus gallech fod yn mynd ymlaen i wneud y cwrs Gofal Plant Lefel 3 neu fynd am swydd yn y sector gofal plant.
Mae angen i ddysgwyr sy’n mynychu cyrsiau Gofal a Gofal plant brynu crys polo gwerth £11 i wisgo ar leoliad ac i dalu am wiriad DBS.
-copy.jpg)





