Bydd y cymhwyster yn rhoi cyflwyniad trylwyr i'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc. Mae cynnwys y cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o:
• yr egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol • ymarfer effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol • llwybrau dilyniant i astudiaeth bellach neu gyflogaeth ym maes diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
3 TGAU Gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg. Gellir trafod cymwysterau cyfwerth eraill yn y cyfweliad.
Gwiriad DBS llwyddiannus a chais am wasanaeth diweddaru’r gwiriad DBS. Bydd gofyn i bob ymgeisydd lenwi “pro-fforma Addasrwydd ar gyfer Gofal”.
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ymgeiswyr basio: • pedwar asesiad drwy gydol y cymhwyster wedi'u seilio ar senarios wedi'u gosod yn allanol a’u marcio yn y ganolfan. • un prawf amlddewis wedi’i osod a’i farcio’n allanol
Gall cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus a 4 TGAU Gradd C neu'n uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, alluogi dysgwyr i symud ymlaen i'r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol L3 neu symud ymlaen i gyflogaeth mewn gofal cartref neu breswyl.