Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o iechyd a lles, agweddau cyfreithiol a moesegol sy'n llywodraethu'r ffordd rydyn ni’n gweithio ym maes iechyd, a dealltwriaeth o iechyd a chlefydau dynol.
Modiwlau blwyddyn 1 • Datblygiad Proffesiynol 1 – 40 credyd • Sgiliau Astudio – 20 credyd • Ymchwilio i Iechyd a Lles – 20 credyd • Y Gyfraith, Moeseg a Pholisi – 20 credyd • Iechyd a Chlefydau Dynol – 20 credyd Addysgu Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, gweithgareddau gwaith grwp a sesiynau ymarferol. Mae'r addysgu ar hyn o bryd yn para dau ddiwrnod yr wythnos. Bydd dysgwyr yn cael tua 12 awr yr wythnos o gyswllt ystafell ddosbarth gyda'r disgwyliad y bydd myfyrwyr yn gwneud tua'r un faint o astudio ar eu pennau eu hunain y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Cynnig Safon Uwch nodweddiadol – CC Cynnig Bagloriaeth Cymru nodweddiadol – Pasio Diploma Bagloriaeth Cymru Uwch gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau ac C ar lefel Safon Uwch. Cynnig BTEC nodweddiadol – Diploma BTEC - Teilyngdod Teilyngdod. Cynnig Mynediad i AU nodweddiadol – Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol TGAU: Mae'r Brifysgol fel arfer yn gofyn am o leiaf 3 gradd TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu uwch, neu eu cyfwerth, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae asesu ar gyfer y cwrs yn amrywio gydag ystod eang o ddulliau gan gynnwys Traethodau, Profion MCQ, Arholiad (un yn unig), Cyflwyniadau, Cyflwyniadau Poster, Canolfan asesu, Tasgau gwaith grwp. Mae asesiadau yn ffurfiannol ac yn grynodol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd modd i chi wneud cais am gyrsiau gradd Anrhydedd Addysg Uwch mewn ystod eang o broffesiynau Nyrsio a Gofal Iechyd, a chyrsiau mewn Prifysgol neu Sefydliad Addysg Uwch o'ch dewis, neu chwilio am waith.
Mae ffioedd rhan amser fesul 20 credyd. Ar ôl ymrestru, bydd eich ffi yn aros ar yr un gyfradd drwy gydol eich cyfnod yn astudio ar y cwrs hwn.
Awst 2024 - Gorffennaf 2025 Ffioedd i'w cadarnhau
Gellir cael cyllid drwy Gyllid Myfyrwyr.