Byddwch yn astudio nifer o feysydd yn y diwydiant cerddoriaeth gyda'r bwriad o adeiladu eich gwybodaeth am y farchnad gerddoriaeth a sut i ddatblygu'ch brand eich hun.
Byddwch yn dysgu am ddatblygu brand yn ogystal â mireinio'ch sgiliau perfformio a chynhyrchu.
Bydd y broses hon yn gorffen gyda phrosiect terfynol lle byddwch chi'n cyflwyno'ch cynnyrch wedi'i frandio (Albwm, EP, tâp ac ati) cyn gwerthuso a myfyrio ar eich profiad.
Disgwylir i ddysgwyr sy'n cymryd y cymhwyster hwn fod yn 18+ ac mae'n ofynnol iddynt fod wedi cwblhau rhaglen 3 Safon Uwch, neu gymhwyster galwedigaethol Diploma Estynedig Lefel 3 cyfatebol.
Yn ogystal, bydd proses gyfweld a chlyweliad ar ôl gwneud cais.
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o gynlluniau, adroddiadau a gwerthusiadau ysgrifenedig er mwyn mesur eich dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau, cynnwys arbenigol a'ch gallu i hunanfyfyrio, yn ogystal ag asesiadau ymarferol ar sail cymhwysedd a fydd yn arwain at gwblhau prif brosiect terfynol.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch yn y Brifysgol, gwella'ch siawns o gael cyllid rhanbarthol a chynyddu'r tebygolrwydd o gael gyrfa lawrydd lwyddiannus fel artist, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd, cyfansoddwr neu ymarferydd creadigol arall yn y dyfodol.