Diploma mewn Astudiaethau Sylfaen - Celf a Dylunio Lefel 3/4

Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ydy un o raglenni cadarnaf, mwyaf nodedig a llwyddaannus yn y wlad. Ein gwerthoedd craidd ydy bod yn broffesiynol, yn ysbrydoli, yn ymatebol a chreadigol.


Mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a’r portffolios sydd eu hangen ar gyfer symud ymlaen i gwrs gradd mewn celf a dylunio. Mae’r pynciau creadigol a astudir yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr brofi ystod o ddeunyddiau, prosesau, syniadau creadigol a thechnolegau. Mae hyn yn eu galluogi i nodi ac ystyried dewisiadau gradd yn lwyddiannus.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Wedi’i lunio o gwmpas camau datblygiad penodol, mae’r cwrs deinamig hwn yn cychwyn gydag ystod eang o astudiaethau a hynny’n eich galluogi i brofi amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio. Mae’r casgliad o sgiliau a’r wybodaeth a ddysgir yn arwain at brosiect mawr terfynol ac arddangosfa ddiwedd blwyddyn.


Cewch eich annog i ddatblygu ieithwedd weledol gyfoethog a’r pwyslais ar ddadansoddi, creadigrwydd ac arbrofi. Nod arall cwrs sylfaen celf a dylunio ydy datblygu eich ymwybyddiaeth ymarferol a chritigol o gyd-destunau cyfoes, y byd gweledol a pherthnasol. Addysgir y cwrs Diploma mewn Celf a Dylunio drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau gweithdai, arddangosfeydd a siaradwyr gwadd. Cewch eich annog i ddatblygu ieithwedd gyfoethog weledol ac mae’r pwyslais ar ddadansoddi, creadigrwydd ac arbrofi. Nod arall cwrs sylfaen celf a dylunio ydy datblygu’ch ymwybyddiaeth ymarferol a chritigol o’r byd cyfoes gweledol a chyd-destunau perthynol. Addysgir y cwrs Diploma mewn Celf a Dylunio drwy amrywiaeth o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, arddangosfeydd a siaradwyr gwadd. Cam 1 (Cam Archwilio) Rhagarweiniad i elfennau craidd celf a dylunio. Mae’r rhain yn cynnwys: Technegau a Phrosesau’r Cyfryngau, Prosiectau Lluniadu Diagnostig, Technegau Ymchwil, Ffotograffiaeth, Astudiaethau Dylunio, Y Cyfryngau Digidol a Gwneud a Chreu, Cam 2 (Datblygu Ymarfer Arbenigol) Mae’r ail gam yn cyflwyno myfyrwyr i ystod eang o wahanol fathau o gelf a dylunio. Caiff myfyrwyr eu herio i feddwl yn greadigol wrth iddyn nhw gael eu hannog i orgyffwrdd ac ymgorffori gwahanol agweddau o gelf a dylunio i greu gwaith arloesol. Ymhlith yr opsiynau mae: 3D Celf Graffig a Digidol, Darlunio a Chelf Gain, Ffasiwn a Thecstilau. Cam 3 ( Cam Cadarnhau) Yn ystod y cam olaf, byddwch yn parhau i ffocysu ar faes arbenigol wrth i chi weithio tuag at arddangosfa ddiwedd blwyddyn. Mae’r cyfnod ymestynnol hwn o waith hunan-gyfeiriedig yn gofyn i chi ddefnyddio’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiadau a ddatblygwyd drwy gydol y cwrs. Byddwch yn cwblhau Prosiect Mawr ac Arddangosfa Ddiwedd Blwyddyn.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

5 TGAU gradd C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Sasneg neu Cymraeg Mamiaith) ac 1 Lefel A neu Ddiploma BTEC Lefel 3/NVQ Lefel 3 (neu gyfwerth).

Asesiad

Asesir drwy bortffolio drwy gydol y cwrs. Cynhelir asesiadau ffurfiol ar ddiwedd pob cam.

Dilyniant Gyrfa

Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych set nodedig o briodoleddau y mae gan gyflogwyr feddwl uchel ohonyn nhw , nifer o’r priodoleddau hynny heb fod, o anghenraid, yn perthyn i gelf a dylunio. Bydd y cwrs yn eich helpu i arddangos nifer o gymwyseddau a sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys y gallu i weithio’n annibynnol, bod yn drefnus a gallu cynllunio, hunan-ysgogol a hunan reolaeth a chyflwyno’n weledol (i enwi ond rhai). Dyfernir Diploma mewn Celf a Dylunio i'r rhai hynny sy’n cwblhau pob rhan o'r cwrs yn llwyddiannus. Er bod hwn yn gymhwyster gwerthfawr ac yn cynnig rhagolygon rhagorol am gyflogaeth, gallwch hefyd wneud cais am gwrs gradd mewn prifysgol neu am gwrs hyfforddi athrawon. Oherwydd natur blaengar y cwrs mae nifer o gyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i gyrsiau gradd nodedig celf a dylunio. Mae llawer hefyd wedi ymuno â chyrsiau hyfforddi athrawon gan barhau i rannu eu harferion da a’u brwdfrydedd dros gelf a dylunio. Bydd dysgwyr sy’n cwblhau pob rhan o’r cwrs yn ennill Diploma Celf a Dylunio. Er bod hwn yn gymhwyster gwerthfawr ynddo’i hun ac un sy’n rhagorol ar gyfer darpar gyflogaeth, gallwch hefyd wneud cais am gwrs HND neu radd BA (Anrh) mewn prifysgol neu gwrs hyfforddi athrawon. Oherwydd natur flaengar y cwrs mae nifer o gyn-ddysgwyr wedi symud ymlaen i gyrsiau nodedig – rhai israddedig celf a rhai gradd dylunio. Mae llawer hefyd wedi dewis mynd ar gyrsiau hyfforddi athrawon a pharhau i ledaenu arferion da ym maes celf a dylunio a dangos brwdfrydedd dros gelf a dylunio.

Nodiadau Pellach

Bydd gofyn i chi, ar gyfer y cwrs ymarferol hwn, brynu deunyddiau a/neu cit. Trafodwch hyn gyda’ch tiwtor adeg y cyflweliad ar ôl I chi wneud cais.

Ymgeisiwch Nawr Gofyn am alwad yn ôl
Manylion y Cwrs
Lefel:Lefel 3
Modd:Llawn Amser
Dyddiad:01/09/2026
Lleoliad:Nantgarw
Cod y Cwrs:9BF303NA
Ffioedd
Ffi Cofrestru Llawn Amser: £15
Studio Fee: £84

Sylwch: Mae ffioedd yn daladwy am bob blwyddyn astudio.

Oriel y Cyfryngau
Beth mae Dysgwyr yn ei Ddweud

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd