Bydd dysgwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 2 RSL yn y Celfyddydau Perfformio. Lluniwyd yr unedau hyn i gynnig llwybr galwedigaethol ar gyfer actorion, dawnswyr a Pherfformwyr Sioeau Cerdd, sy’n galluogi dysgwyr i arddangos eu talentau.
Byddwch yn astudio 5 uned drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â’ch gwersi sgiliau ymarferol mewn: Jazz Cyfoes Bale Dawns tap Actio a chanu. Yr unedau y byddwch yn eu hastudio ydy: cynllunio ar gyfer Gyrfa (craidd), Cynhyrchiad Terfynol (craidd), Drama benodol i Leoliad, Perfformiad Ensemble Dawns, Perfformiad Cerddorol Ensemble.
4 TGAU gradd D neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg Mamiaith) neu gymwysterau lefel 1 cyfatebol.
Asesir aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig yn barhaus dwy gydol y cwrs. Asesir pob uned yn fewnol a’u safoni’n allano. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus dyfernir gradd drwyddi draw o Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Ar ôl cwbhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i Lefel 3 RSL yn y Cefyddydau Perfformio. Mae’r cwrs yn darparu hyn sy’n cyfateb i 4 TGAU a 3 Lefel A, a hynny’n cynnig digon o bwyntiau UCAS i fynychu unrhyw brifysgol.
Mae cyfweliad yn rhan o’r broses gyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Ffi stiwdio - £75.00












