Mae’r cwrs yn creu a datblygu portffolio o sgiliau lluniadu & phaentio a gweithio mewn modd arbrofol ac archwiliadol gydag ystod o gyfryngau a thechnegau mewn 2 a 3 dimensiwn. Cewch wybodaeth ragorol am hanfodion technegau traddodiadol yn ogystal â thechnoleg gyfrifiadurol. Cewch eich annog i archwilio a datblygu syniadau celf a dylunio a chynhyrchu canlyniadau effeithiol. Byddwch yn gweithio ar amrywiaeth o brîffs gosodedig i’w cwblhau o fewn unedau cyffredinol Celf a Dylunio a 3 llwybr arbenigol sy'n cael eu cynnig. Ar ôl cwblhau Blwyddyn 1 yn llwyddiannus, byddwch yn treulio gweddill Blwyddyn 2 yn astudio un o’r disgyblaethau arbenigol canlynol:
Celfyddydau Graffig: mae hyn yn delio gyda dylunio graffig, ffotograffiaeth, darlunio, paentio a gwneud printiadau. Ffasiwn a Thecstilau: sy’n delio â thorri patrwm a thechnegau saernïo dillad ar gyfer ffasiwn a gwisgoedd, patrwm arwyneb, trin a thrafod ffabrig, papur a gwneud printiadau mewn tecstilau, darlunio a dylunio. Dylunio 3D: mae hyn yn cynnwys celfi, cynnyrch, dylunio gofodol ac ar gyfer y theatr, technegau cyflwyno graffeg a thechnegau crefft dylunio.
5 TGAU graddau A*- C yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Chelf neu Ddiploma Lefel 2 gradd Teilyngdod mewn pwnc creadigol perthnasol.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad gyda phortffolio o’ch gwaith celf/dylunio. Asesir eich llythrennedd a’ch rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
Asesir aseiniadau ymarferol; ac ysgrifenedig yn barhaus drwy gydol y cwrs. Asesir pob uned yn fewnol a’u safoni’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster llawn yn llwyddiannus, dyfernir gradd i chi sef Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth a fydd yn trosi’n bwyntiau UCAS yn barod ar gyfer eich llwybr gwneud cais i Addysg Uwch.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallech symud ymlaen i Flwyddyn 2 Lefel Estynedig 3 mewn Celf a Dylunio. Mae’r cwrs hwn cyfwerth â thri Lefel A.
Purchase of Materials and/or Kit is required for this course (Studio Fees - £105, Kit Fees - £73.51). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.