Mae’r cwrs UAL Lefel 3 y Cyfryngau Creadigol hwn yn cynnig llwybr dwy flynedd a luniwyd ar gyfer y rhai sy’n frwd dros ddilyn gyrfaoedd creadigol. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn cwblhau Diploma Lefel 3, ac y mae cyfle i symud ymlaen i ail flwyddyn a chyflawni Diploma Estynedig.
Blwyddyn 1: Diploma Lefel 3 Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ffocysu ar ddatblygu sail gadarn yn y llwybr o’ch dewis — Dylunio Graffig, Darlunio, Ffilm, Ffotograffiaeth, Hysbysebu neu animeiddio. Byddwch yn ymwneud â dysgu yn seiliedig ar brosiect, gweithdai technegol a phrosiectau ar y cyd er mwyn datblygu sgiliau creadigol craidd. Erbyn diwedd y flwyddyn hon, byddwch wedi cwblhau’r Diploma Lefel 3 sy’n cynnig cymhwyster cadarn ar gyfer rolau lefel mynediad neu astudiaeth bellach. Blwyddyn 2 : Diploma Estynedig Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus ac wedi arddangos ymrwymiad i ddatblygu eu sgiliau a chael cyfle i ddychwelyd am ail flwyddyn i gyflawni’r Diploma Estynedig. Yn ystod yr ail flwyddyn hon cewch fynd yn ddyfnach i’ch llwybr, a chael cynnig ar uwch brosiectau, arbenigo yn fwy a rhagor o gyfleoedd i gydweithio. Mae’r Diploma Estynedig yn cynnig cymhwyster uwch ei lefel, cyfwerth â thri Lefel A, ac y mae’n cael ei gydnabod yn eang ar gyfer mynediad i brifysgol neu ar gyfer prentisiaethau uwch eu lefel.
5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfwerth
Anogir dangos tystiolaeth o waith creadigol blaenorol mewn cyfweliad ond nid yw’n ofynnol.













