Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cynnwys wyth uned – saith uned arbenigol ac uned prosiect terfynol. Byddwch yn dysgu sut i gynhyrchu ffilm a chynyrchiadau teledu a sut i ddadansoddi cynhyrchion y cyfryngau a dadansoddi cynulleidfaoedd.
Byddwch y gweithio ar sgriptio, gwaith camera, effeithiau arbennig a chynhyrchu ac arferion ôl-gynhyrchu ar gyfer ffilm a theledu. Gall y prosiectau gynnwys rhaglenni dogfen, fideo cerddoriaeth a ffilm fer. Mae’r ail flwyddyn yn eich arwain at gyfanswm o 13 uned a bydd yn datblygu’ch sgiliau ymhellach gyda phrosiectau cynhyrchu arbenigol fydd yn ystyried ‘genre’ a chynulleidfa yn ogystal â’ch paratoi i fynd ymlaen yn y diwydiant neu addysg uwch.
5 TGAU gradd C neu uwch (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Cymraeg Mamiaith) neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster galwedigaethol lefel 2.
Asesir aseiniadau ymarferol ac unedau ysgrifenedig o waith yn barhaus dwy gydol y cwrs hwn. Asesir pob uned o waith yn fewnol a’u safoni’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn dyfernir graddau terfynol o Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau (Teledu a Ffilm).













