Ar ddiwedd y cwrs hwn byddwch wedi datblygu ystod o sgiliau gan gynnwys:
• Gosod a Dylunio Colur ar gyfer Perfformiad • Steilio Gwallt a Gwisgo Perfformwyr • Unedau Cynhyrchu gan gynnwys gweithio ar gynyrchiadau byw • Gwallt a Cholur Cyfnod • Colur Effeithiau Arbennig a Gosod Prostheteg • Steilio Gwallt Ffantasi • Celf y Corff
5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfwerth
Ceir asesu parhaus trwy gydol y cwrs gydag aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig. Caiff yr holl unedau eu hasesu'n fewnol a'u safoni'n allanol. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhoddir gradd gyffredinol o Bas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Mae cyflogwyr a Sefydliadau Addysg Uwch (Prifysgolion a cholegau) yn gwerthfawrogi diplomâu. Ceir dilyniant i'r HND Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol (Llwybr Colur) yng Ngholeg Y Cymoedd ac yna'r BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Gwallt, Colur ac Effeithiau Arbennig (Blwyddyn Sefydlu). Mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli yn y Diwydiannau Creadigol (Teledu a Ffilm) sy'n ehangu yn Ne Cymru.
Purchase of Materials and/or Kit is required for this course (Studio Fees - £50). Please discuss this at interview stage with a tutor after you have applied.












