Mae’r cwrs yn cynnwys naw uned – un uned graidd ac wyth uned arbenigol
Uned Graidd: Dadansoddi Cynnyrch y Cyfryngau a Chynulleidfaoedd Unedau Arbenigol: gallai’r rhain gynnwys Ysgrifennu Sgript, Hysbysebu, Effeithiau Arbennig, Fideo Cerdd, Cynhyrchu ar gyfer y Teledu ac Ôl-Gynhyrchu.
Mae angen 5 TGAU graddau A*- C. yn cynnwys Saesneg a Mathemateg neu Ddiploma Lefel 2 gradd Teilyngdod mewn pwnc creadigol neu bwnc perthnasol i TG. Mae’r cwrs yn gofyn am safon dda o lythrennedd cyfrifiadurol.
Cewch eich gwahodd i fynychu cyfweliad. Hefyd, ar y cychwyn asesir eich sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn sefydlu a oes angen cymorth arnoch chi.
Asesir aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig yn barhaus drwy gydol y cwrs. Asesir pob uned yn fewnol a’u safoni’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus dyfernir gradd gyffredinol sef Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Gallech symud ymlaen i Diploma Estynedig Lefel 3 Estynedig mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau (Teledu a Ffilm).