Bydd dysgwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 RSL yn y Celfyddydau Perfformio. Lluniwyd yr unedau hyn i ddarparu llwybr galwedigaethol i actorion, dawnswyr a Pherfformwyr Theatr Gerdd a galluogi dysgwyr i arddangos eu talent.
Mae’r cwrs yn cynnwys detholiad o unedau megis: Paratoi ar gyfer Perfformiad, Actio ar gyfer y Camera, Dawns Jazz ar gyfer Sioe Gerdd, Genres Theatr, Rhythm a Thap , Actio drwy Gân, Cynllunio ar gyfer Gyrfa, Coreograffi, Technegau Lleisiol, Technegau Clyweliad o ran maes Actio a Dawns. Mae’r rhain yn cydredeg â’ch sgiliau ymarferol, gwersi mewn jazz, cyfoes, bale, dawns tapio, actio a gwersi canu.
5 TGAU gradd C neu’n uwch (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith Gyntaf Iaith gyntaf), neu gymwysterau lefel 2 cyfwerth
Cynhelir clyweliad fel rhan o’r broses cyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Ceir asesu parhaus drwy gydol y cwrs ar gyfer aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig. Caiff yr holl unedau eu hasesu'n fewnol a'u safoni'n allanol. Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, rhoddir gradd gyffredinol o Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallech chi symud ymlaen i Lefel 3 Estynedig RSL yn y Celfyddydau Perfformio.
Cynhelir clyweliad fel rhan o’r broses cyfweld ar gyfer y cwrs hwn.
Ffi Stiwdio - £75.00











