• Cyfres o brosiectau hunan-gynhyrchiol a byw gaiff eu dysgu. • Cydweithio gyda chyrsiau Graddau Sylfaen Cyfryngol eraill a’r diwydiant. • Rhaglen astudiaethau critigol a phrosiect unigol. • Dealltwriaeth o Gynhyrchu ar Ffilm, ar gyfer y Teledu a Chynyrchiadau Cyfoes • Defnyddio graddfeydd, Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur a phrintio 3D. • Adeiladu mewn pren, metel a phlastig • Gweithio gydag ystod eang o ddeunyddiau mowldio a chastio. • Creu pypedau a pherfformiad • Creu Masgiau a Gwisgoedd Mân Gelfi, Cerflunio Byw • Creu modelau • Sgiliau crefftau traddodiadol
Tariff UCAS- 80 - 104 pwynt Lefel A - CDD; Diploma Estynedig Lefel 3 UAL -BCC; Diploma Estynedig Cenedlaethol; BTEC Lefel 3 Pearson (cyfnod cyntaf addysgu o fis Medi 2016) – TTP(MMP) – RhTT (DMM) Mynediad i gwrs Diploma AU TGAU/Cenedlaethol 4/Cenedlaethol 5.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs gorffenedig ar sail aseiniadau a gwaith ymarferol.
Nod y rhaglen ydy helpu myfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol a/neu ar gyfer astudiaeth academaidd bellach. Bydd myfyrwyr yn adeiladu a datblygu ystod eang o ddealltwriaeth ymarferol a thechnegol o weithio gyda deunyddiau prosesau a ddefnyddir o fewn diwydiant y cyfryngau creadigol megis cerfio, prisio, gwaith coed a ffabrigo metel. Cynorthwyir sgiliau ymarferol gan ddealltwriaeth hanesyddol a chyd-destunol gadarn ar sail ymchwil a theori a dadansoddiad trylwyr. Profiad o sgiliau ymarferol a chreadigol sy’n gynhenid yn eu pwnc. Ystod o dechnegau sefydledig i roi cychwyn ac i ymgymryd â dadansoddiad critigol o wybodaeth ac i gynnig datrysiadau i broblemau sy’n codi o’r cyfryw ddadansoddiad o’u pwnc. Meithrin safonau uchel o broffesiynoldeb a phrofiad er mwyn sicrhau bod graddedigion yn gallu ymateb i anghenion y diwydiant. Ar ôl cwblhau yn llwyddiannus, gallech chi weithio yn y Diwydiannau Creadigol naill ai’n llawrydd neu'n gyflogedig mewn meysydd megis Creu Mân Gelfi, Effeithiau Creaduriaid (Creature FX), Pypedwaith, Mân Gelfi Costiwm, Ffug-Arfau, Cerfio, Gwneud Modelau ac Animeiddio.
Ffi Offer a Stiwdio
Bydd y cwrs ymarferol hwn yn gofyn ichi brynu pecyn cymorth unigol (£200-300 yn fras) i gefnogi modiwlau ymarferol. Bydd rhestr offer yn cael ei darparu i ymgeiswyr llwyddiannus, cyn cychwyn ar y cwrs.
Mae ffi stiwdio ychwanegol o £150 y flwyddyn
Bydd gofyn i chi ar gyfer y cwrs ymarferol hwn brynu cit adnoddau personol y( tua £220 -£300) i gefnogi modiwlau ymarferol. Darperir rhestr o’r cit ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, cyn cychwyn y cwrs.
Mae yna ffi stiwdio ychwanegol o £200 y flwyddyn.







