Cydnabyddiaeth i Goleg y Cymoedd yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau am ei Hybiau YmgysylltuColeg y

Mae Coleg y Cymoedd yn falch o fod wedi cael canmoliaeth yng Ngwobrau Beacon Cymdeithasu y Colegau eleni am ein Hybiau Ymgysylltu – menter newydd ar draws y coleg a gynlluniwyd i ddarparu cefnogaeth gynhwysol a arweinir gan y dysgwyr i bob myfyriwr o Lefel Mynediad 3 i Lefel 3.

Crëwyd yr Hybiau Ymgysylltu i ddiddymu’r rwystrau i ddysgu ac i sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at gymorth academaidd, digidol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae pob dysgwr yn cael hyd at ddwy awr yn yr Hyb bob wythnos, gyda hyfforddiant un-i-un ychwanegol ar gael i’r rhai sydd mewn perygl o ddatgysylltu neu fod yn NEET.

Rhan allweddol o lwyddiant yr Hybiau yw bod y gofodau a’r model cymorth wedi’u siapio’n uniongyrchol gan lais y dysgwr. O gynllun yr ystafell a pharthau tawel i themâu’r gweithdai a gweithgareddau lles, chwaraeodd dysgwyr ran weithredol wrth ddylunio sut mae’r Hybiau’n edrych ac yn teimlo. Mae’r cyd-greadigaeth hon wedi helpu i sefydlu ymdeimlad o berchnogaeth, perthyn ac ymddiriedaeth – gan sicrhau bod dysgwyr yn teimlo bod yr Hybiau yn fannau a grëwyd ar eu cyfer nhw, ac nid dim ond yn rhywbeth sy’n cael ei gynnig iddyn nhw.

Mae’r Hybiau’n annog annibyniaeth wrth gynnig arweiniad strwythuredig gan Anogwyr Ymgysylltu arbenigol. Gall dysgwyr geisio help gydag aseiniadau, adolygu, offer digidol, trefn amser, magu hyder, a lles. Mae’r Hybiau hefyd yn cynnal gweithdai ac ymweliadau gan bartneriaid fel Barclays, Women’s Aid, Heddlu De Cymru, Syniadau Mawr Cymru ac eraill, gan gysylltu dysgwyr â’r byd go iawn, llwybrau cyflogaeth a chymorth cymunedol.

Ers eu lansio, mae’r Hybiau Ymgysylltu wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar draws y coleg:

  • Cynnydd yn y cyfraddau ymgysylltu a chadw dysgwyr
  • Partneriaethau cryfach gydag ysgolion a sefydliadau cymunedol
  • Cyfranogiad uwch gan ddysgwyr a oedd mewn perygl o ddatgysylltu
  • Canlyniadau uchel o ran boddhad dysgwyr yn gyson

Llongyfarchodd y Pennaeth Jonathan Morgan y tîm: “Rwy’n hynod falch o’r Tîm Ymgysylltu a’r effaith gadarnhaol y mae’r Hybiau wedi’i chael mewn cyfnod mor fyr. Yr hyn sy’n gwneud y fenter hon mor arbennig yw bod y gofodau wedi’u siapio gan ein dysgwyr – wedi’u hadeiladu o amgylch yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, i deimlo’n hyderus ac i allu llwyddo. Mae’r canmoliaeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pob dysgwr yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu.”

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Al Lewis: “Mae’r Hybiau Ymgysylltu wedi ail-lunio sut mae cefnogaeth yn edrych ac yn teimlo yn y coleg. Mae’r model yn ymatebol, yn gynhwysol ac yn gosod y dysgwr wrth galon y cyfan.”

Mae’r canmoliaeth yn cydnabod arloesedd, hygyrchedd ac effaith model yr Hybiau – ac yn dathlu ymroddiad y Tîm Ymgysylltu sydd wedi gweithio i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo bod ganddynt y gefnogaeth, y gallu a’r hyder ar gyfer eu camau nesaf.

Llongyfarchiadau i’r Tîm Hybiau Ymgysylltu ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.

Diweddariad – 18 Tachwedd 2025: Rydyn ni’n falch iawn o rannu, yn dilyn ein canmoliaeth gychwynnol, bod Coleg y Cymoedd bellach wedi cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau BeaconCymdeithas y Colegau ar gyfer ein menter Hybiau Ymgysylltu – a ni yw’r unig goleg yng Nghymru i gyrraedd y rownd derfynol yn ein categori eleni.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd