Cynaliadwyedd ar Waith: Parth Gwyrdd yn Tanio Dysgu, Creadigrwydd a Chymuned

I ni, nid dim ond pwnc trafod yw cynaliadwyedd – mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei dyfu, coginio, blasu a dysgu ohono.

Y tymor hwn, mae ein dysgwyr Arlwyo Lefel 1 o’n campws Ystrad Mynach wedi bod yn gwreiddio cynaliadwyedd yn eu cwricwlwm drwy gynaeafu cynnyrch ffres o Barth Gwyrdd y coleg.

O casglu tomatos a chreu cawl blasus, i ddefnyddio blodau bwytadwy i addurno prydau yn ein Bwyty Scholars, mae dysgwyr yn ennill profiad gwerthfawr o brynu cynhwysion, paratoi bwyd a lleihau gwastraff.

Mae’r fenter eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Yn ogystal a chael y cyfle i weld y daith o’r ardd i’r plât yn uniongyrchol, mae’r cynnyrch maen nhw’n ei gasglu yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol mewn asesiadau a phrydau – heb unrhyw gost ychwanegol i’r coleg. Mae cynlluniau ar waith i dyfu rhagor o bethau, gan gynnwys plannu coed eirin damson posibl i gefnogi eitemau ar y fwydlen fel Pastai Bakewell gydag Eirin Damson.

Gyda thimau ar draws y campws yn cofleidio cynaliadwyedd fel ffordd o fyw, mae’r Parth Gwyrdd yn prysur ddod yn ganolfan creadigrwydd, cydweithio a dysgu cyfrifol. Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i baratoi dysgwyr ar gyfer diwydiant drwy brofiadau go iawn sydd o fudd i bobl a’r amgylchedd.

With teams across campus embracing sustainability as a lived practice, the Green Zone is fast becoming a hub of creativity, collaboration and responsible learning. This work reflects our commitment to preparing learners for industry through real experiences that benefit both people and the environment.

Mae cynaliadwyedd yn fyw ac yn iach yn y Cymoedd – ac mae’n blodeuo.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd