Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer Technegwyr Labordy a gwyddoniaeth dan hyfforddiant mewn ystod o rolau, o’r rhai sy’n cynorthwyo gwyddonwyr a pheirianwyr mewn gwaith ymchwil a datblygu i’r rhai sy’n cynnig sicrwydd ansawdd neu wasanaethau dadansoddi gwyddoniaeth. Lluniwyd y cwrs ar gyfer technegwyr labordy a gwyddoniaeth sy’n cynnal gwaith arferol labordy a gweithrediadau gwyddonol arferol a’r rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau mwy amrywiol a llai arferol megis cynllunio, trefnu ac arwain swyddogaethau cymorth technegol i gynorthwyo gwyddonwyr, addysgwyr a thechnolegwyr yn eu gwaith.
Mae angen cwblhau’r cymwysterau canlynol i gyd er mwyn cyflawni’r brentisiaeth:
Diploma Lefel 3 BTEC Cenedlaethol Mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Wedi’i gyflawni dros ddwy flynedd, drwy fynychu’r coleg unwaith yr wythnos – 8 awr o ddosbarthiadau.
Cymhwyster sy’n gyfwerth yn academaidd â dwy Lefel A ar gyfer mynediad i brifysgol
Blwyddyn 1:
Uned 1: Egwyddorion Gwyddoniaeth a’u Cymhwyso I (Asesiad Allanol)
Uned 2: Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddoniaeth Ymarferol (Asesiad Mewnol)
Uned 3: Sgiliau Ymchwil Gwyddonol (Asesiad Allanol)
Uned 13: Cymwysiadau cemeg organig (Asesiad Mewnol)
Blwyddyn 2:
Uned 4: Technegau Labordy a’u Cymhwysiad (Asesiad Mewnol)
Uned 5: Egwyddorion Gwyddoniaeth a’u Cymhwyso II (Asesiad Allanol)
Uned 6: Prosiect Ymchwiliol (Asesiad Mewnol)
Uned 14: Cymwysiadau Cemeg Organig (Asesiad Mewnol)
Diploma Lefel 3 NVQ BTEC mewn Gweithgareddau Labordy a Thechnolegol Cysylltiol
Wedi’i asesu yn y gweithle drwy arsylwi a chasglu tystiolaeth am hyfforddiant a gweithgareddau gwaith, dros ddwy flynedd.
Mae dau lwybr yn bosibl, Diwydiannol ac Addysgol
Ymhlith yr Unedau mae (Llwybr Gwyddoniaeth Diwydiannol)
Uned 1: Cynnal iechyd a diogelwch mewn gweithlu gwyddonol neu dechnegol
Uned 2: Cynnal perthynas waith effeithiol ac effeithlon ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol
Uned 3: Gweithredu profion gwyddonol neu dechnegol
Uned 4: Cyrchu a chyfleu gwybodaeth wyddonol neu dechnegol i bersonél awdurdodedig
Uned 5: Cynnig cyngor ac arweiniad technegol ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol
Uned 6: Cynllunio gweithgareddau samplu a phrofi gwyddonol neu dechnegol
Uned 12: Mesur, pwyso a pharatoi cyfansoddion a thoddiannau at ddefnydd labordy
Uned 7: Cynnal a rheoli stoc yr holl adnoddau, cyfarpar a nwyddau traul ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol
Unedau sydd wedi eu cynnwys (Llwybr Gwyddoniaeth Addysgol)
Uned 1: Cynnal iechyd a diogelwch mewn gweithle gwyddonol neu dechnolegol
Uned 2: Cynnal perthynas waith effeithiol ac effeithlon ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol
Uned 19: Gwerthuso a darparu cymorth gwyddonol neu dechnegol ar gyfer gweithgareddau dysgu
Uned 20: Arddangos dulliau, technegau a sgiliau gwyddonol neu dechnegol i eraill.
Uned 21: Gwella ansawdd a dibynadwyedd gweithgareddau gwyddonol a thechnegol yn y gweithle
Uned 22: Profi a gwerthuso dulliau a gweithdrefnau gwyddonol neu dechnegol newydd
Uned 13: Cynnal a rheoli stoc yr holl adnoddau, cyfarpar a nwyddau traul
Uned 14: Gwneud cyflwyniadau ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol yn y gweithle
Sgiliau Hanfodol Cymru
Caiff y rhain eu cwblhau yn y coleg fel rhan o’r dyddiau astudio
Lefel 2 Cyfathrebu
Lefel 2 Rhifedd
Lefel 2 Llythrennedd Digidol
Y cwrs (cyrsiau a gwblhawyd): Uwch Brentisiaeth gyda Diploma Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Yn astudio ar gwrs gradd Cemeg ym Mhrifysgol De Cymru lle caiff ei gyflogi fel Technegydd Cemeg
Y cwrs (cyrsiau a gwblhawyd): Rhagoriaeth* mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol
Wedi symud ymlaen i Brifysgol Glasgow, ac yn gobeithio bod yn ffarmacolegydd