Ystafelloedd Ffitrwydd
Mae gan Goleg y Cymoedd stafelloedd ffitrwydd ar ddau gampws - Nantgarw ac Ystrad Mynach.
Nantgarw
Mae Coleg y Cymoedd yn falch o weithio mewn cydweithrediad ag Aspire Fitness ar gampws Nantgarw.
Mae’r swît ffitrwydd yn Nantgarw ar gael i’w ddefnyddio gan y myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd ac mae’n cynnwys yr offer cardio a chodi pwysau diweddaraf.
Ewch i wefan Aspire am ragor o wybodaeth: www.aspirefitness.co.uk
Ffoniwch ni ar Gampws Nantgarw am ragor o wybodaeth ar sut i ymuno, oriau agor neu’r dosbarthiadau diweddaraf neu fargeinion ymaelodi : - 01443 887544
Tâl Aelodaeth:
1 diwrnod = £5.00
1 mis = £30.00
12 mis = £22.00/y mis
Oriau agor:
Dydd Llun – Dydd Iau 6.30am – 9.00pm
Dydd Gwener - 6.30am - 7.00pm
Dydd Sadwrn – 7.00am - 2.00pm
Dydd Sul – 2.00pm - 7.00pm
(Ar agor ar gyfer y Cwricwlwm yn unig – Dydd Llun - Gwener 10.00 - 12.00 a 2.00 – 4.00)
Ystrad Mynach
Yn ein swît ffitrwydd yn Ystrad Mynach, mae yna dros ugain math o offer cardiofasgwlar, pwysau gwrthwynebol a phwysau rhydd i siwtio pob lefel ac angen. Mae ein staff hyfforddedig yn gallu cynnig cyngor personol fel y gallwch wneud y gorau o’ch ymarferion.
Rhaid i holl ddefnyddwyr y swît ffitrwydd gwblhau anwythiad campfa gyflawn cyn cael defnyddio’r swît iechyd a ffitrwydd, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a ffitrwydd.
Cysylltwch â’r swît iechyd a ffitrwydd ar 01443 816888, estyniad 4152, yn ystod yr oriau agor isod er mwyn bwcio’ch anwythiad campfa. Noder – tu allan i gyfnodau’r tymor coleg, gallai oriau’r swît ffitrwydd fod yn wahanol. Dim ond ar gyfer myfyrwyr a staff y Coleg y mae’r gampfa hon ar agor.
Oriau agor
|
|
Canol Dydd |
|
|
|
Dydd Llun |
|
4.30pm-6.00pm |
|
|
|
Dydd Mawrth |
|
4.30pm-6.00pm |
|
|
|
Dydd Mercher |
|
AR GAU |
|
|
|
Dydd Iau |
|
4.30pm-6.00pm |
|
|
|
Dydd Gwener |
|
AR GAU |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Faint fydd raid i mi dalu?
Gall myfyrwyr a staff ymuno â’r swît ffitrwydd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r tâl aelodaeth yn cychwyn o £10 y tymor i fyfyrwyr a £20 i staff.
Gostyngir y prisiau hyn i aelodau sy’n ymuno â’r gampfa yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd.
Am ragor o wybodaeth am y Swît Ffitrwydd, cysylltwch â Cohen Griffith ar: 01443 816888, estyniad 4152, neu e-bostiwch: cohen.griffith@cymoedd.ac.uk .