Dysgu Sylfaen
Mae Coleg y Cymoedd yn cynnig cyrsiau Lefel Mynediad i ddysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol neu ddysgwyr heb unrhyw gymhwyster ffurfiol.
Mae cyrsiau Sgiliau Sylfaen yn rhoi cyfle ichi wella’ch sgiliau unigol a'ch sgiliau gweithio mewn tîm. Lluniwyd cyrsiau Mynediad Lefel 2 a 3 i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant yn y gweithle neu i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar gwrs brif ffrwd yng Ngholeg y Cymoedd. Nod y cyrsiau Cyn-Fynediad Lefel 1/2 yw datblygu’ch annibyniaeth, hunan-gymorth a’ch sgiliau cymdeithasol.
Mae’r holl gyrsiau’n darparu cyfleoedd ichi ymestyn eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG ac ennill cymwysterau yn y meysydd hyn. Hefyd, mae mwyafrif y cyrsiau yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a luniwyd i ddatblygu’ch sgiliau creadigol a hefyd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol.
Mae croeso i rieni a dysgwyr ymweld â champysau’r coleg i gwrdd â’r staff cyn gwneud cais. Cysylltwch â’r coleg am ragor o wybodaeth.