Lilia Simonov

Geocemegydd a phêl-droedwraig yn sgorio lle yn UCL


Mae chwaraewraig bêl-droed uchelgeisiol o Hirwaun yn edrych ymlaen i wynebu ei her nesaf a dechrau ar ei gyrfa ddelfrydol ar ôl cael lle yn un o brifysgolion gorau Prydain, lle mae’n gobeithio parhau â’i llwyddiant yn y byd chwaraeon ochr yn ochr â’i hastudiaethau.

Mae hi wedi bod yn chwarae pêl-droed ers iddi fod yn ddeg oed, ac roedd ei hangerdd am y gamp yn golygu bod angen mwy na chwrs ysgogol a statws Grŵp Russell ar ei phrifysgol ddelfrydol – roedd yn rhaid i’r sefydliad fod â thîm pêl-droed i ferched hefyd.


Dydy’r dysgwr gweithgar, sydd hefyd wedi sefydlu clwb dadlau a chael ei henwi’n ddysgwr A2 y flwyddyn yng Ngholeg y Cymoedd, ddim yn pryderu am orfod cydbwyso hyfforddiant a gemau gyda’i hastudiaethau yn y brifysgol, gan ei bod wedi gorfod jyglo’r ddau beth yn y coleg hefyd.


Roedd Lilia’n rhan o Academi Bêl-droed Merched Coleg y Cymoedd – yr academi coleg cyntaf o’i bath sy’n cynnig rhaglen hyfforddi pêl-droed llawn amser i ferched, ochr yn ochr â darpariaeth addysg lawn amser. Y coleg yw’r unig sefydliad Addysg Bellach yng Nghymru sydd ag achrediad gyrfa ddeuol TASS (Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus), sy’n cael ei roi i sefydliadau sy’n dangos ymrwymiad i gefnogi pencampwyr ifanc i ddilyn llwybr gyrfa ddeuol – gan eu galluogi i wireddu eu llawn potensial ym myd addysg gan lwyddo yn eu chwaraeon hefyd. Er bod dysgwyr yn yr Academi fel arfer yn astudio BTEC mewn chwaraeon ochr yn ochr â’u sesiynau ymarferol, roedd Lilia’n benderfynol o astudio tair Safon Uwch, er ei bod yn gwybod y byddai hyn yn cynyddu ei llwyth gwaith yn sylweddol.


Meddai Lilia: “Dw i’n chwarae pêl-droed ers i fi fod yn blentyn, ac wedi bod wrth fy modd gyda’r gamp erioed. Do’n i wir ddim eisiau rhoi’r gorau iddi pan o’n i’n dechrau’r coleg, ond ar yr un pryd, ro’n i’n gwybod fy mod i eisiau astudio Safon Uwch. Doedd dewis un dros y llall ddim yn opsiwn, felly roedd pêl-droed yng Ngholeg y Cymoedd yn cynnig yr ateb perffaith i fi. Dyma’r unig goleg yng Nghymru sydd ag achrediad TASS, a oedd yn atyniad mawr i fi, gan ei fod yn golygu bod polisïau ganddyn nhw i fy nghefnogi i i gydbwyso’r ddau beth.


“Pan ges i fy ngwahodd gan y coleg i ymuno â’r academi ferched, ro’n i’n gwybod nad o’n i eisiau cymryd y llwybr dynodedig o astudio BTEC chwaraeon, ac roedden nhw’n hyblyg iawn wrth adael i fi deilwra’r rhaglen i weddu i fy anghenion. Yn ffodus, roedd modd i fi fynd i gampws Ystrad Mynach ar gyfer y pêl-droed, a Nantgarw ar gyfer fy Safon Uwch.


“Roedd cydbwyso pêl-droed gyda fy Safon Uwch yn waith caled, ac roedd yn sicr yn fwy o waith, ond ro’n i’n benderfynol o lwyddo yn y ddau beth. Fe wnes i’n siŵr fy mod i’n dod o hyd i’r amser i ddal lan gyda’r gwersi ro’n i’n eu methu oherwydd gemau, ac ro’n i’n aml yn gorfod adolygu ar y bws ar y ffordd i gemau oddi cartre. Roedd fy nhiwtoriaid yn cynnig llawer o help, yn recordio sesiynau i fi allu eu gwylio nhw yn fy amser fy hunan. Roedden nhw’n deall fy ymrwymiadau pêl-droed, ac fe wnaethon nhw eu gorau glas i fy nghefnogi. Weithiau, bydden i’n ystyried methu gêm pan roedd dyddiad cau ar y gorwel, ond bydden i bob amser yn mynd yn y diwedd, ac yn gwneud mwy o waith – do’n i methu cadw draw!”


Dydy taith Lilia i’r byd pêl-droed heb fod yn un esmwyth. Ar ôl chwarae i dimau bechgyn am ychydig flynyddoedd am nad oedd yna glybiau lleol i ferched, dechreuodd Lilia ac eraill dîm merched Aberdâr, a wnaeth eu galluogi i ymuno â chynghrair i ferched. Ers hynny, mae Lilia wedi ymuno â sawl gwahanol dîm, ac ar hyn o bryd mae’n chwarae i Dref y Barri yn ogystal ag Academi Coleg y Cymoedd.


Mae hi nawr yn edrych ymlaen i ddechrau ei gradd mewn gwyddorau daear, ar ôl cael ei hysbrydoli i wneud cais am y cwrs gan ei bod yn teimlo ei fod yn gyfuniad perffaith o’i dau hoff bwnc, daearyddiaeth a chemeg. Ei gobaith yw y bydd y cwrs yn arwain at yrfa mewn ymchwil iddi, gan archwilio prosesau daearyddol, fel digwyddiadau tectonig fel daeargrynfeydd a tswnamis, er mwyn gallu eu deall yn well.


Ychwanegodd Lilia: “Dw i bob amser wedi bod eisiau dilyn gyrfa sy’n helpu pobl. Drwy astudio’r prosesau yma, gallwn ni nodi pryd gallai digwyddiadau trychinebus ddigwydd, a gweithio i’w hatal. Byddai ymchwil fel geocemegydd hefyd yn caniatáu i fi deithio’r byd – rhywbeth mae gen i ddiddordeb mawr yn ei wneud – gan nad oes ffiniau i’r problemau rydyn ni’n eu datrys.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau