Dyma rai o’n llwyddiannau.

Ro’n i bron â pheidio gwneud cais i’r brifysgol, ond ar ôl siarad gyda fy nhiwtoriaid fe wnaethon nhw fy atgoffa i fy mod i’n gallu ei wneud, drwy gymryd pethau un cam ar y tro.”

O’r dechrau, fe wnaeth y gefnogaeth ges i yng Ngholeg y Cymoedd wahaniaeth mawr. Roedd y staff yn amyneddgar ac yn garedig ac fe wnaethon nhw wir gymryd yr amser i ddod i fy neall.”

Fe wnes i fwynhau rhyddid y coleg o’i gymharu â’r ysgol, gydag amserlen fwy hamddenol ac amgylchedd dysgu annibynnol. Roedd y coleg yn bont wych rhwng yr ysgol a’r brifysgol.”

Dw i wedi cael profiad cyfoethog iawn yn mynychu Coleg y Cymoedd ac yn astudio cerddoriaeth. Fe wnes i ddysgu am dechnoleg ac offer go iawn y bydda i’n gallu eu defnyddio wrth ddilyn fy ngyrfa.”

Wnes i erioed feddwl y byddai mynd i’r brifysgol yn opsiwn i fi, ond diolch i Goleg y Cymoedd a’r bobl wnaeth gredu yndda i, dw i nawr ar fy ffordd i’r brifysgol. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr i gymryd y cam nesaf.”

Rhoddodd Coleg y Cymoedd yr hyder i fi lwyddo a’r lle i fod yn fi fy hunan. Mae bod yn y lle iawn, gyda’r bobl iawn, wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”

Dw i wedi cael amser anhygoel yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r tiwtoriaid yn eich annog ac yn eich cefnogi gyda’ch gwaith, ond rhoddodd y cyfle i fi ddatblygu fy annibyniaeth wrth ddysgu.”

Mae’r ddwy flynedd yng Ngholeg y Cymoedd wedi bod yn wych. Mae’r staff addysgu wedi bod yn hynod gefnogol a hawddgar, roedden nhw bob amser ar gael i helpu os oedd ei angen arna i.”

Bydden i’n argymell Coleg y Cymoedd yn fawr i unrhyw un – mae ’na gwrs ar eu cyfer nhw sy’n gallu eu cefnogi a’u helpu nhw i dyfu.”

Fe wnes i ddatblygu rhwydwaith cymorth cryf yn y coleg ac fe wnaethon nhw fy helpu i gredu yn fy syniad busnes ac yndda i fy hunan.”

Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn wych – bob amser yn gefnogol ac yn barod i helpu. Rwyf wedi dysgu llawer ac wedi magu mwy o hyder, a fydd yn fy helpu wrth imi symud ymlaen i’r cam nesaf yn fy mywyd.”

Rhoddodd y coleg fwy o annibyniaeth i mi na’r ysgol. Nawr dw i wedi dysgu sut i reoli fy amser fy hun, sut i astudio’n ddoethach – dw i’n teimlo’n barod go iawn.”

Roedd gwneud pedair Lefel A yn heriol ond fe wnes i fwynhau astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn fawr iawn ac fe wnes i gymaint o ffrindiau yma.”

“Roedd addysgu o ansawdd uchel yng Ngholeg y Cymoedd – roedd y gwersi’n ddiddorol iawn, ac fe roddon nhw lawer o ddeunyddiau i mi eu hadolygu.”

Roedd Gracie yn aelod o Academi Pêl-rwyd Benywaidd a rhaglen TASS ac yn gweithredu fel llysgennad dros y Gymraeg.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




