Mae Coleg y Cymoedd wedi partneru â Facilitate, cwmni Realiti Rhithwir (VR) arloesol i gyflwyno dysgu ymgolli, sy’n seiliedig ar realiti rhithwir, i’w fyfyrwyr — ac mae’r canlyniadau’n dweud y cyfan.
Mae’r cydweithio blaengar hwn eisoes wedi arwain at ganlyniadau diriaethol: mae costau hyfforddi wedi gostwng 40%, mae cyfraddau cadw myfyrwyr wedi gwella, ac mae lefelau ymgysylltu â dysgwyr yn fwy nag erioed. Drwy gyflwyno dros 170 o glustffonau VR ar draws 4 campws a thrwy integreiddio platfform cynnwys di-god Facilitate, mae’r coleg yn arwain y ffordd mewn addysg a alluogir yn ddigidol.
“Roedd angen datrysiad arnom ni a oedd yn gwneud dysgu ymgolli yn gynaliadwy, yn raddadwy ac yn addasadwy,” meddai Tiberiu Dancovici, Arweinydd Arloesedd Dysgu yng Ngholeg y Cymoedd. ” Rhoddodd Facilitate yr hyblygrwydd hwnnw i ni – rydyn ni wedi gallu adeiladu ein llyfrgell ein hunain o senarios hyfforddi yn gyflym, heb fod angen tîm datblygu. Mae wedi newid sut rydyn ni’n mynd ati i ddylunio a chyflwyno’r cwricwlwm.”
Mae myfyrwyr wedi ymateb gyda brwdfrydedd. Mewn arolygon a gynhaliwyd ar ôl y sesiynau hyfforddi VR, dywedodd 83% eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn cymhwyso eu sgiliau mewn amgylcheddau byd go iawn.
Ychwanegodd Rory Meredith, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Arloesedd Digidol: “Roedden ni’n gweld Facilitate fel platfform a fyddai’n caniatáu inni greu efelychiadau dysgu wedi’u teilwra a oedd yn ystyrlon, trawsnewidiol ac yn cyd-fynd â’n hethos o ail-ddychmygu addysg trwy greadigrwydd, arloesi a chydweithio.”
Dywedodd Ben Bauert, Prif Swyddog Gweithredol Facilitate,: “Mae Coleg y Cymoedd yn gosod safon newydd ar gyfer trawsnewid digidol ym myd addysg. Mae eu harweinyddiaeth wedi dangos beth sy’n bosibl pan fydd technoleg ymgolli wedi’i integreiddio â phwrpas a gweledigaeth.”
Partneriaeth Strategol i drosglwyddo i addysg oedolion y DU
Gan barhau â’r cydweithio, mae Facilitate a Choleg y Cymoedd bellach yn gosod eu golygon ar ddefnyddio eu harbenigedd ar y cyd i ddylanwadu ar sector addysg oedolion ehangach y DU. Heddiw, mae’r ddau gwmni wedi cyhoeddi partneriaeth strategol i alluogi holl sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach y DU i greu eu cynnwys dysgu ymgolli eu hunain.
Dywedodd Matthew Tucker, Is-Bennaeth Coleg y Cymoedd, am y bartneriaeth hon: “Yng Ngholeg y Cymoedd, ein nod yw gosod y safon ar gyfer arloesi digidol yn sector addysg y DU. Mae’r bartneriaeth hon yn ein galluogi i fod yn esiampl i sefydliadau eraill, i ddysgu oddi wrthynt ac i gydweithio â nhw, mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl o’r blaen.”
“Drwy bartneru â Choleg y Cymoedd, gallwn gyflymu ein cenhadaeth i wella bywydau dysgwyr drwy brofiadau dysgu mwy diddorol ac effeithiol. Mae ein cydweithwyr yng Ngholeg y Cymoedd yn gallu cyflymu’r broses o fabwysiadu dysgu ymgolli drwy eu cydberthnasau a’u dylanwad ymhlith sector addysg y DU.” meddai Ben Bauert.
Mae’r bartneriaeth hon yn rhan o’r uchelgais ehangach a osodwyd gan strategaeth Digidol 2030 Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar y sgiliau a’r profiadau digidol sydd eu hangen ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




