Mae dysgwyr a thiwtoriaid ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf wedi bod yn dathlu wrth i Goleg y Cymoedd nodi blwyddyn arall o ganlyniadau llwyddiannus ar gyfer Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol, gyda channoedd yn ennill lle yn eu dewis cyntaf o brifysgol, yn sicrhau prentisiaethau ac yn symud ymlaen i gyflogaeth.
Mae’r coleg, y darparwr mwyaf o gyrsiau Safon Uwch yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, wedi nodi blwyddyn arall o ganlyniadau academaidd rhagorol, gan gynnal cyfradd lwyddo o dros 99%, gyda pherfformiad cryf a pharhaus o ran graddau A*-C Safon Uwch, yn ogystal â chyfraddau llwyddo uchel ar draws cymwysterau galwedigaethol.
Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd diweddar, mae Coleg y Cymoedd yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda chanlyniadau eleni yn adeiladu ar duedd barhaus o berfformiad a dilyniant uchel.
Mae Canolfan Safon Uwch y coleg yn Nantgarw wedi gweld blwyddyn arall o ganlyniadau cryf, gydag 16 o feysydd pwnc – gan gynnwys bioleg, ffiseg, mathemateg bellach, llenyddiaeth Saesneg, daearyddiaeth a hanes – yn adrodd cyfraddau llwyddo o 100%.
Yn ogystal â llwyddiant academaidd, mae’r dysgwyr a gwblhaodd gymwysterau galwedigaethol hefyd wedi cyflawni canlyniadau trawiadol, gyda dros 900 o fyfyrwyr yn cwblhau cyrsiau Lefel 3 mewn pynciau gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, adeiladwaith, celfyddydau creadigol, chwaraeon, cyfrifiadura a pheirianneg. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y coleg i ddarparu addysg dechnegol o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd ag anghenion y gweithlu ar lefel leol a chenedlaethol.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae ymrwymiad y coleg i les dysgwyr a chymorth personol wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau personol, ariannol ac academaidd er mwyn cyrraedd eu nodau. Mae mentrau fel y Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS), cymorth lles helaeth a llwybrau pwrpasol yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ffynnu.
O ddarpar wyddonwyr a mathemategwyr i berfformwyr, gofalwyr ac entrepreneuriaid, mae dysgwyr Cymoedd yn parhau i sicrhau lleoedd mewn prifysgolion a gweithleoedd blaenllaw ledled y wlad.
Ymhlith straeon llwyddiant eleni mae Dylan McCarthy, 18 oed, o Goed-elái (Tonyrefail) sydd wedi goresgyn heriau sylweddol drwy gydol ei addysg ac sydd bellach yn paratoi i ddechrau ym Mhrifysgol Rhydychen, ar ôl derbyn cynnig i astudio Seicoleg Arbrofol yng Ngholeg St Catherine.

Cafodd Dylan ddiagnosis o ADHD ac awtistiaeth yn chwech oed, ac fe wynebodd anawsterau sylweddol drwy gydol ei addysg gynnar. Roedd yr ysgol gynradd yn gyfnod arbennig o heriol iddo, gan arwain at ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol. Roedd y pontio i addysg uwchradd yr un mor anodd, ac erbyn Blwyddyn 8 trosglwyddwyd Dylan i Uned Cyfeirio Disgyblion arbenigol sy’n darparu cefnogaeth sy’n ystyriol o drawma i bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.
Er gwaethaf yr heriau a wynebodd Dylan, arhosodd yn benderfynol o barhau â’i addysg a manteisio i’r eithaf ar bob cyfle a oedd ar gael iddo.
Pan ddaeth Dylan i’w gyfweliad yng Ngholeg y Cymoedd, gwelodd y staff yn syth ei aeddfedrwydd, ei ddeallusrwydd a’i benderfyniad i lwyddo. Cafodd y cyfle i astudio Safon Uwch, a manteisiodd ar y cyfle hwnnw i brofi’r hyn y gallai ei gyflawni.
Bellach, mae’n paratoi ar gyfer ei her nesaf ar ôl iddo dderbyn cynnig o of A*A*A*A (gan gynnwys Bagloriaeth Cymru) i astudio Seicoleg Arbrofol yng Ngholeg St Catherine, Prifysgol Rhydychen.
Cafodd Matthew Goodwin ac Iwan Matthews o Gaerffili ganlyniadau a chyrchfan union yr un fath. Enillodd y ddau raddau AAA a byddant yn mynd ymlaen i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Pâr arall o efeilliaid sy’n dathlu yw James a Sam Jones, 18 oed, o Gaerffili. Llwyddodd y ddau i ennill gradd D* Driphlyg yn eu cwrs BTEC Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, a byddant nawr yn cwblhau eu taith addysgol gyda’i gilydd ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Pensaernïaeth

Mae’r efeilliaid Erin a Madeline, 18 oed, o Aberpennar, hefyd yn dathlu ar ôl i’w canlyniadau agor y drws i ddau lwybr gwahanol.
Enillodd Erin raddau AAA a bydd yn astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, tra enillodd Madeline raddau A*AA a bydd yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caeredin.

Mae’r ddwy sy’n gyn-ddisgyblion o Ysgol Gyfun Aberpennar wedi rhannu llawer o’u taith addysgol gyda’i gilydd. Nawr, fodd bynnag, mae eu dyfodol yn eu harwain i gyfeiriadau gwahanol.
Dysgwr arall sy’n dathlu yw un o sêr tennis bwrdd mwyaf llwyddiannus Cymru, sef Toby Harwood o Gaerffili, a fydd yn astudio Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Sheffield Hallam.
Enillodd Toby raddau AABB, sy’n gwneud ei lwyddiant academaidd yn fwy nodedig fyth gan iddo hefyd gyflawni llwyddiant rhyfeddol ar y gylchdaith tennis bwrdd yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg y Cymoedd.

Drwy gefnogaeth cynllun TASS y coleg, llwyddodd Toby i ddilyn ei uchelgais chwaraeon a gwneud hynny heb gyfaddawdu ar ei astudiaethau. Dywedodd: “Mae bod yn rhan o’r cynllun TASS wedi fy ngalluogi i gydbwyso astudio pedair Safon Uwch wrth barhau i ddatblygu yn fy nghamp. Yn ystod fy amser yn y coleg, rwyf wedi bod yn ffodus i ennill teitlau cenedlaethol, gwneud fy ymddangosiad cyntaf i dîm hŷn Cymru, a chael fy newis i garfan Tîm Cymru ar gyfer Gemau a Phencampwriaethau’r Gymanwlad 2026.”
Connie Dolloway, 18 oed, o Gaerffili, fydd yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol ar ôl sicrhau graddau AAAA rhagorol i astudio Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Wybyddol ym Mhrifysgol Nottingham.

Un o uchafbwyntiau ei phrofiad yn y coleg oedd y gallu i astudio cyfuniad unigryw o bynciau a oedd yn adlewyrchu ei diddordebau, gan gynnwys y Gymraeg, sy’n rhan allweddol o’r ystod o bynciau Safon Uwch a gynigir gan y coleg.
Dywedodd Pennaeth Coleg y Cymoedd, Jonathan Morgan: “Rydym yn eithriadol o falch o’n dysgwyr a’u cyflawniadau eleni. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu nid yn unig eu gwaith caled a’u gwydnwch, ond hefyd cefnogaeth gyson ein tiwtoriaid a’n timau cymorth ymroddedig.
“P’un a yw dysgwyr yn symud ymlaen i’r brifysgol, prentisiaethau lefel uwch, neu’n syth i gyflogaeth, rydym yn gwybod eu bod yn ein gadael gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i lwyddo yn eu meysydd dewisol.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





