Mae pymtheg o ddysgwyr ymroddedig o gwrs Adeiladwaith Lefel Mynediad Coleg y Cymoedd wedi rhoi dros 400 awr o’u hamser gyda’i gilydd i ddatblygu Canolfan newydd ym Montllanfraith.
Drwy bartneriaeth â Wynne Construction, rhoddwyd y cyfle i’r dysgwyr ennill profiad ymarferol amhrisiadwy mewn crefftau fel gwaith saer, gwaith trydanol ac adeiladu palmentydd a thoeau gan bontio’r bwlch rhwng eu gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol.
Mae’r prosiect trawsnewidiol hwn, sy’n rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad sylweddol o £12.2 miliwn. Ei nod yw troi hen ysgol yn ofod dysgu o’r radd flaenaf ym Mhontllanfraith.
Rhoes pob dysgwr o leiaf 25 awr o’u hamser dros bum wythnos, gyda chludiant coleg wedi’i ddarparu i sicrhau eu cyfranogiad.
Ymhlith y grŵp roedd Cai Fernon o Bontypridd. Dywedodd Cai, a gyfrannodd dros 50 awr i’r prosiect, fod y cyfle wedi rhoi profiad a fyddai’n gallu ei ychwanegu at ei CV er mwyn ei helpu i ddilyn gyrfa mewn gosod brics: “Roeddwn i’n helpu i adeiladu’r waliau gyda’r seiri maen, a oedd yn wych. Teimlais fy mod i wedi cael fy nghefnogi drwy gydol y profiad gan yr holl staff.”


Yn yr un modd, mwynhaodd Lacey Fabian, 17 oed, flas ar waith saer coed go iawn: “Rydw i wedi mwynhau gweithio ochr yn ochr â’r saer coed i ddatblygu fy sgiliau. Roedd bod ar safle byw yn wahanol iawn i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond roedd yn well gen i hynny. Mae wedi rhoi ymdeimlad gwirioneddol i mi o sut beth yw’r swydd.”
Mae’r fenter hon yn dangos cyfranogiad dysgwyr a’r cyfleoedd a ddarperir gan adran Mynediad Galwedigaethol y coleg. Mae cyrsiau Lefel Mynediad yn cyflwyno dysgwyr i lwybrau gyrfa posibl mewn sectorau penodol, gan gynnig sgiliau sylfaenol a hyder ar gyfer dilyniant posibl i gymhwyster Lefel 1.
Siaradodd Craig Sweet, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Wynne Construction, am y bartneriaeth gref â Choleg y Cymoedd: “Mae ein perthynas â Choleg y Cymoedd wedi tyfu’n sylweddol. Mae’r coleg yn mynd y tu hwnt i gynnig gweithgareddau cyfoethog sy’n caniatáu i ddysgwyr roi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith yn y byd go iawn.”
Dywedodd Dorian Adkins, Pennaeth yr Ysgol ar gyfer Dysgu Sylfaen a Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod falch o’n dysgwyr am gwblhau eu horiau lleoliad gwaith gyda chymaint o ymroddiad a phroffesiynoldeb. Mae’r profiadau byd go iawn hyn yn hanfodol wrth baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r coleg ac yn eu helpu i ddatblygu’r hyder, y sgiliau a’r gwydnwch sydd eu hangen i ffynnu yn eu llwybrau dewisol. Hefyd, rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n partneriaid yn Wynne Construction am eu cefnogaeth barhaus a’u cred ym mhotensial ein dysgwyr.”
Dysgwch ragor am y gefnogaeth i ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




