Y gweinidog Vikki Howells yn canmol Prifysgol De Cymru (PDC) am ei chyfleusterau diwydiannau creadigol sydd ar gael drwy gyrsiau yng Ngholeg y Cymoedd

Ymwelodd y Gweinidog Vikki Howells â Phrifysgol De Cymru (PDC) yn ddiweddar i weld ei chyfleusterau diwydiannau creadigol trawiadol, a ddatblygwyd drwy’r Gynghrair Strategol gyda Choleg y Cymoedd a cholegau eraill yn ne-ddwyrain Cymru.

Ymhlith yr adnoddau diweddaraf hyn mae theatr o’r radd flaenaf, stiwdios ffilm a theledu, stiwdios ffasiwn, ystafelloedd dosbarth dylunio, stiwdio sgrin werdd, a stiwdios ffotograffiaeth. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi cyrsiau fel Llunio Gwisgoedd a Chreu Propiau, gan roi sgiliau hanfodol i fyfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.

Mae’r Gynghrair Strategol yn rhwydwaith hirsefydlog o bum coleg sy’n ymroddedig i wella datblygiad sgiliau, llwybrau dilyniant, ymgysylltu â diwydiant, ac ymchwil gymhwysol yng Nghymru.

Cyfarfu’r Gweinidog â Phennaeth Coleg y Cymoedd, Jonathan Morgan a Phennaeth Partneriaethau ar gyfer Datblygu ac Arloesi yng Ngholeg y Cymoedd, Alistair Aston, yn ogystal ag Is-ganghellor a Deon y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru a myfyrwyr o’r colegau partner.

Yn ystod y daith, siaradodd y Gweinidog â’r myfyrwyr Llunio Gwisgoedd Gavyn Brewster ac Emma Williams yng Ngholeg y Cymoedd. Crëwyd y cwrs hwn, a ddatblygwyd ar y cyd gan Brifysgol De Cymru a Choleg y Cymoedd, i ateb y galw cynyddol yn y sector sgrin.

Mae Gavyn ac Emma ill dau wedi mynychu dosbarthiadau meistr a gynhelir gan Cymru Greadigol a CCAUC fel rhan o brosiect Academi Sgrin Cymru, a ffurfiwyd yn 2023, mewn partneriaeth â cholegau’r Gynghrair Strategol, Screen Alliance Wales, a phedair stiwdio Ffilm a Theledu ledled Cymru.

Hefyd, cyfarfu’r Gweinidog â’r myfyrwyr Creu Propiau Elizabeth Evans ac Anton Petersen yng Ngholeg y Cymoedd. Mae’r cwrs tair blynedd hwn yn un o’r rhaglenni gorau a mwyaf unigryw yn y DU. Mae’r cymhwyster wedi’i achredu gan Brifysgol De Cymru ac wedi’i gynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant.

Wrth fyfyrio ar yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells: “Mae cydweithio yn rhan allweddol o weledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Mae gweld prifysgolion, colegau a busnesau yn gweithio gyda’i gilydd yn gwireddu’r weledigaeth hon. Roedd yn galonogol clywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr a gefnogir gan y bartneriaeth hon. Mae eu straeon yn fy atgoffa pam ei bod mor bwysig bod addysg a chyflogwyr yn cydweithio’n agos i helpu dysgwyr i gael y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt mewn marchnad swyddi gyfnewidiol.”

Ychwanegodd Dr. Ben Calvert, Is-ganghellor Prifysgol De Cymru: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi pob dysgwr i sicrhau canlyniadau a gyrfaoedd llwyddiannus, sef union fwriad y Gynghrair Strategol. Mae gennym ni hanes cryf o wneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau, cyflogwyr, ac ysgolion lleol, gan weithio gyda’n colegau partner i ddarparu cyfle cyfartal i ddysgu gydol oes. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi dangos hyn i’r Gweinidog yn ystod yr ymweliad.”

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r bartneriaeth rhwng Coleg y Cymoedd a Phrifysgol De Cymru yn enghraifft o’n hymrwymiad ar y cyd i gynnig addysg sy’n berthnasol i ddiwydiant, ac sy’n rhoi i’n dysgwyr y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.

“Drwy raglenni arloesol fel Llunio Gwisgoedd a Chreu Propiau, mae ein dysgwyr yn cael profiad ymarferol a chyfleoedd sy’n eu gosod ar wahân yn y diwydiannau creadigol. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r Gynghrair Strategol, sy’n meithrin cydweithio’n barhaus ac yn gwella profiadau dysgu ledled Cymru.”

Dewch o hyd i gyrsiau AU yng Ngholeg y Cymoedd

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd