Abbie Housler

Mae myfyrwraig o Bontypridd a lwyddodd i gael A* ymhob pwnc yn edrych ymlaen i fynd yn syth i mewn i fyd gwaith ar ôl ennill lle ar gynllun unigryw a luniwyd i gynorthwyo myfyrwyr i fynd yn syth i gyflogaeth ar ôl eu hastudiaethau.

Er iddi ennill y graddau uchaf yn ei chwrs busnes, daearyddiaeth a seicoleg yn Lefel A, mae Abbie Houslet, myfyrwraig 18 oed o Goleg y Cymoedd wedi penderfynu peidio â dilyn y llwybr traddodiadol i brifysgol.

Yn hytrach, mae hi yn un o’r 60 dysgwr o Gymru gafodd le ar raglen Rhwydwaith (Network) 75 – cyfuniad o gynllun lleoliad gwaith ac astudiaeth ran amser a gynhelir gan Brifysgol De Cymru sy’n caniatáu i bobl ifanc weithio ac ennill arian wrth iddyn nhw astudio am radd o’u dewis yn y brifysgol.

Fel rhan o’r rhaglen, mae Abbie wedi sicrhau swydd fel prentis gyfrifydd gyda Dŵr Cymru. Dros y pum mlynedd o’r cwrs, bydd yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn ei swydd gyda’r cwmni a’r ddau ddiwrnod arall yn gweithio tuag at radd mewn Cyfrifydda a Chyllid ym Mhrifysgol De Cymru.

Roedd y ferch ifanc uchelgeisiol hon â’i bryd erioed ar fynd yn syth i mewn i gyflogaeth ar ôl gorffen yn y coleg, yn awyddus i ennill ei chyflog ei hunan, a chael profiad ymarferol o’r byd go iawn a bod yn rhydd o ddyled yn wyneb costau cynyddol prifysgol.

Fodd bynnag, ar ôl ennill graddau mor uchel, doedd Abbie ddim am wastraffu’r cyfle i fynd i brifysgol ac edrychodd i mewn i’r dulliau y gallai hi gyfuno astudio tra’n gweithio, a daeth ar draws rhaglen Rhwydwaith 75.

Dywedodd: “Pan oedd fy ffrindiau yn trafod mynd i brifysgol ac anfon eu ceisiadau i mewn, mi ro’n i’n gwybod nad dyna’r llwybr roeddwn i am ei gymryd. I mi, roedd y syniad o weithio ac ennill arian cyn gynted â phosibl yn fwy deniadol a doeddwn i ddim yn hoffi meddwl am adael y brifysgol mewn dyled fawr. Ar yr un pryd, roeddwn i wedi gweithio mor galed yn ystod fy lefel A, doeddwn i ddim eisiau i hynny fynd yn wastraff chwaith.

“Do’n i ddim yn sicr beth fyddai’r cam nesaf i mi ac fe wnes i drafod hyn gyda fy nhiwtoriaid yn y coleg. Y nhw dynnodd fy sylw at Rwydwaith 75 ac roedd y rhaglen yn swnio’n ateb perffaith i mi. Bydd yn rhoi cyfle i mi gael pum mlynedd o waith ac wedi ennill gradd ar ei ddiwedd a dim dyled. Alla i ddim aros i gychwyn arni!”

Drwy roi cyfle i bobl ifanc roi’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu ar waith, ochr yn ochr ag ennill gradd, a datblygu gwybodaeth ymarferol yn ogystal â damcaniaethol, mae dysgwyr ar Raglen Rhwydwaith 75 yn ennill sgiliau, profiad a chymwysterau y mae galw amdanyn nhw yn y diwydiant, a thrwy hynny’n cynyddu eu cyflogadwyedd.

Mae ffioedd pob myfyrwyr ar raglen 75 yn cael eu talu’n llawn ac maen nhw’n derbyn bwrsari ddi-dreth o £6,500, sy’n cynyddu o £1000 bob blwyddyn academaidd. Maen nhw’n gweithio gyda chwmni lleol, gyda rhwydwaith o dros 400 o fusnesau a dewis o ystod o sectorau i weithio ynddyn nhw.

Ychwanegodd Abbie, sydd wedi bod yn gweithio rhan amser i Benefit Cosmetics tra’n astudio ar gyfer ei Lefel A a gwneud cais am raglen Rhwydwaith 75: “Y peth gwych am Rwydwaith 75 ydy eich bod yn gallu dewis o 10 maes pwnc a chewch eich paru â chwmni a gradd yn unol â hynny. Roedd gen i ddiddordeb erioed mewn cyfrifydda, felly mae gradd mewn Cyfrifydda a Chyllid yn berffaith i mi.

“Roedd y broses o wneud cais yn waith caled – bu rhaid i mi arddangos pam y byddwn yn dda ar gyfer y rhaglen ac yna gorfod mynd drwy gyfweliadau gyda phob un o’r cwmnïau  oedd wedi dangos diddordeb ynof i, ond roedd e werth yr holl waith! Rydw i mor falch mod i wedi creu argraff ar Dŵr Cymru a’r adran gyllid yn ystod y cyfweliad ac rydw i’n edrych ymlaen at fy nyfodol gyda nhw.

“Rydw i’n ddiolchgar iawn i fy athro busnes, Clinton Evans, am fy nghefnogi a fy annog i ystyried gradd busnes. Roedd e bob amser yn dweud wrtha i mai dyna fy nghryfder ac y byddwn yn rhagori yn y byd busnes.

“Rydw i hefyd eisiau diolch yn fawr i fy nhiwtor yn y coleg, Holly Richards, am roi gwybodaeth i mi am raglen Rhwydwaith 75 a fy ngwthio i wneud cais. Hebddi hi, fyddwn i ddim wedi dod i wybod am y rhaglen! Buaswn i’n annog pobl ifanc eraill, sydd ddim yn sicr mai llwybr prifysgol sy’n addas ar eu cyfer neu sydd am fynd yn syth i mewn i gyflogaeth, i ystyried y rhaglen ac efallai’n ei chael yn berffaith iddyn nhw, fel ag yr oedd i mi!”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau