Dyfodol disglair o flaen enillydd Gwobr Dewi Sant a darpar wleidydd
Mae bachgen yn ei arddegau a enillodd wobr am achub bywyd dyn gam yn nes i wireddu ei freuddwyd o wneud gwahaniaeth i gymdeithas drwy gael gyrfa ym myd gwleidyddiaeth ar ôl sicrhau ei le mewn prifysgol.
Sicrhaodd Callum Smith sy’n ddysgwr yng Ngholeg y Cymoedd ac sydd â’r uchelgais i fod yn Brif Weinidog ei le ym Mhrifysgol Manceinion i astudio’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ar ôl ennill graddau ABBB yn y Gyfraith, Troseddeg a Gwleidyddiaeth yn ei Lefel A.
Yn gynharach eleni, cyflwynwyd Gwobr Dewi Sant i’r bachgen 18 oed dewr gan Vaughan Gething, y cyn-Brif Weinidog, am achub bywyd dyn ifanc oedd ar fin diweddu ei hunan.
Roedd yr egin wleidydd yn digwydd cerdded dros bont droed oedd yn croesi heol brysur pan welodd ddyn mewn trallod, ac er nad oedd ganddo unrhyw hyfforddiant mewn delio â sefyllfa fel hyn, cadwodd ei ben a, heb gynhyrfu dim, siaradodd ag e a meithrin perthynas cyn i’r heddlu gyrraedd a chymryd yr awenau.
Datblygodd awydd Callum i helpu eraill yn 2020, yn ystod cyfnod clo Covid-19, pan fagwyd ei ddiddordeb yng ngwaith a swyddogaeth cyfraith a llywodraeth y DU yn ystod cyfnod gwleidyddol cythryblus. O sylweddoli bod y gyfraith, gwleidyddiaeth a throseddeg yn mynd law yn llaw a’i awydd i helpu pobl i frwydro am achosion llys teg a chyfiawn, penderfynodd mai gyrfa fel bargyfreithiwr dros yr amddiffyniad oedd ei uchelgais ac, yn y pen draw, byw yn 10 Downing Street.
Y llynedd, derbyniwyd Callum ar Raglen Cronfa Symudedd Cymdeithasol Egin Weithwyr Proffesiynol – cynllun am ddim sy’n cynorthwyo dysgwyr cymwys ym mlwyddyn 12 i fynd i brifysgol ac i mewn i’w swyddi cyntaf drwy gynnig cyngor iddyn nhw ar wneud cais i brifysgol, mentora ar-lein a chymorth i gyrchu lleoliadau gwaith. Drwy’r rhaglen, y llynedd, cwblhaodd Callum interniaeth bythefnos gyda Freshfields, cwmni cyfreithiol rhyngwladol blaenllaw, lle cafod syniad o fywyd cyfreithiwr a gweithio yn Llundain – profiad a atgyfnerthodd ei uchelgais i weithio yn y sector.
Dywedodd Callum: “Mae helpu pobl mewn unrhyw fodd y gallaf yn rhywbeth pwysig iawn i mi a chadarnhaodd y profiad a ges i y llynedd hynny, pan ddes i wyneb yn wyneb ag unigolyn oedd yn ystyried diweddu ei hunan. Ar y pryd, roeddwn i mor ofnus ac mor ofidus, ond o edrych yn ôl, dwi mor falch mod i’n digwydd bod yno ac yn gallu gwneud rhywbeth i helpu.
“Mae’r profiad wedi atgyfnerthu fy awydd am yrfa lle galla i wneud gwahaniaeth. Dw i wir yn credu mai cyfraith troseddu ydy maes mwyaf diddorol y gyfraith a’r maes sydd wedi fy nenu, yn ystod fy Lefel A, am bod cymaint o elfennau iddi. Dw i am helpu pobl a sicrhau bod y system gyfiawnder yn cael ei chynnal yn deg i bawb.
“Ar ôl fy ngradd ym Manceinion, rwy’n gobeithio gwneud cais i sefyll Arholiad y Bar yn Rhydychen; dyna lle mae pob gwleidydd yn mynd, felly, os dwi am fod yn brif weinidog, dyna sydd rhaid i minnau ei wneud!”
Yr hyn a ddenodd Callum i Brifysgol Manceinion oedd ei chwrs nodedig ar gyfraith trosedd a’r clinig cyfreithiol ar y campws lle gall dysgwyr wirfoddoli i weithio gyda bargyfreithwyr go wir. Mae’r cwrs hefyd yn cynnig blwyddyn dramor mewn dinasoedd megis Hong Kong, Singapore a Washington DC.
Dywedodd Callum: “Mae dysgu am gyfraith a llywodraeth dinasoedd mawr eraill, a gwledydd eraill y byd, mor ddiddorol i mi, yn enwedig ar gyfer darpar yrfa ym maes gwleidyddiaeth. Dwi’n credu ei bod hi mor bwysig dysgu am a deall cymhlethdodau llywodraethau eraill y byd.”
Mae sgiliau arweinyddiaeth hefyd yn dod i’r amlwg yn ei hobïau. Fel aelod o’r Rhondda Explorers a hefyd yn arweinydd ifanc gwirfoddol gyda Sgowtiaid Trealaw, mae Callum wedi bod yn datblygu ei sgiliau gwaith tîm a’i ymwybyddiaeth diwylliannol a’i sgiliau cyfathrebu drwy gydol blynyddoedd ei laslencyndod. Er i hyn gynnig cyfleoedd teithio anhygoel iddo, i Norwy a Denmarc yn ddiweddar ar gyfer jamborî 10 diwrnod yn ystod yr haf, yr hyn y mae Callum yn ei garu fwyaf am y Sgowtiaid a’r Explorers ydy’r bobl.
“Mae’r bobl a gwrddais yn ystod fy amser gyda’r Sgowtiaid a’r Explorers wedi dod yn deulu i mi a bydda i’n eu colli pan af i’r brifysgol. Mae’r sgiliau a ddysgais yn ystod fy amser gyda’r ddau grŵp wedi bod yn amhrisiadwy yn fy nhaith i gyrraedd Manceinion a gwn y byddan nhw’n fy helpu i lwyddo yn fy ngyrfa. Gobeithio galla i ddod o hyd i grŵp ym Manceinion ac efallai gwneud gwobr Dug Caeredin hefyd.
“Mae fy Lefel A wedi bod yn waith caled ond fe wnes i fwynhau pob pwnc. Mae cael dihangfa megis y Sgowtiaid a’r Explorers wedi lliniaru dipyn ar y pwysau a’r strés pan oedd pethau’n anodd, fel yn wir y gwnaeth y cymorth anhygoel ges i gan Goleg y Cymoedd a gan fy holl diwtoriaid.
“Rwy’n gobeithio gwneud pawb sydd wedi fy nghynorthwyo yn falch ohonof, ac efallai ryw ddydd mai fi fydd y prif weinidog cyntaf i ddod o Gymoedd De Cymru!”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




