James Rayer

Siwrnai lwyddiannus y dysgwr gyda Pullman Rail wedi ei brentisiaeth

Mae marciau uchel yn y coleg wedi sicrhau dyfodol ym maes peirianneg trenau i ddysgwr Coleg y Cymoedd, James Rayer, gan sicrhau prentisiaeth iddo gyda gwneuthurwr blaenllaw byd y trenau. 

Mae’r gwr 20 oed o Gaerdydd wedi cael cynnig prentisiaeth dwy flynedd gyda ‘Pullman Rail Ltd’ – sydd wedi bod yn gwasanaethu diwydiant rheilffyrdd Cymru am y ddau ddegawd diwethaf, gan ddarparu arbenigedd technegol a chrefftwaith o safon.  

Fel un a fu â diddordeb mewn trenau a rheilffyrdd erioed, mae James wedi bod yn aelod o glwb creu peiriannau model yng Nghaerdydd ers pan oedd yn bedair oed ac wedi treulio llawer o wyliau haf yn gwirfoddoli ar reilffyrdd treftadaeth Gwili yng ngorllewin Cymru, lle bu’n gweithio fel gard yn ystod teithiau, yn gwirio tocynnau a gweithio signalau i nodi ei bod hi’n ddiogel i’r trenau adael. 

Bu hefyd yn gweithio fel glanhawr injans, oedd yn golygu caboli’r holl waith pres ar yr injans stêm a glanhau’r gwaith paent, cadw’r injans yn edrych yn lân a chadw llaid o’r mannau na ddylai fod yn frwnt. Bu James hefyd yn helpu i lanhau blychau tanio ar rai injans, gan rofio’r lludw a huddygl sy’n casglu yno ar ôl teithiau hir. 

Ar ôl cwblhau tair blynedd ar y cwrs peirianneg mecanyddol VRQ Lefel 2 a Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd i ddechrau, manteisiodd James ar y cyfle i ddatblygu ei addysg ymhellach gyda chymhwyster HNC uwch yn y coleg. Galluogodd hyn iddo sicrhau lleoliad blwyddyn gyda Pullman Rail. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n cysgodi a chynorthwyo peirianwyr a oedd yn gwneud atgyweiriadau yn yr adran adnewyddu. 

Cadarnhaodd y profiad uchelgais James i weithio yn y sector, a thalodd ei angerdd a’i ymrwymiad amlwg i ddatblygu ei yrfa ar ei ganfed, gan greu argraff ar benaethiaid Pullman Rail a gynigiodd y brentisiaeth iddo wedi hynny. 

Meddai James: “Rwyf mor falch o fod wedi cael cynnig y brentisiaeth hon yn dilyn fy lleoliad gyda Pullman Rail. Un o’r rhesymau pam y dewisais i’r cwrs peirianneg mecanyddol oedd y cyfle a roddwyd i wneud profiad gwaith ymarferol. Rwyf eisoes yn teimlo fy mod wedi dysgu cymaint o hyn ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r daith honno.” 

Yn ystod y brentisiaeth dwy flynedd, bydd James yn gweithio ar draws dwy adran: y siop ‘bogie’, lle bydd bogies rheilffyrdd – y fframweithiau sydd wedi’u ffitio â’r olwynion, y crogiant ac echelau sy’n cynnal trenau – yn mynd i gael eu hadnewyddu, eu datgymalu a’u hailadeiladu, ac yn ail, y siop olwynion, lle bydd James yn gyfrifol am werthuso a chynnal a chadw’r stoc olwynion. 

Bydd hefyd yn cymhwyso fel ffitiwr ar ôl cwblhau’r cwrs, sy’n golygu y bydd yn gymwys i dynnu rhannau sydd wedi torri oddi ar drenau, asesu problemau mecanyddol a gosod rhannau newydd. 

Wrth siarad am ei benderfyniad i ddilyn prentisiaeth, dywedodd James: “Roeddwn i bob amser yn gwybod nad oeddwn i eisiau dilyn y llwybr traddodiadol i brifysgol, yn enwedig oherwydd gan nad yw’r sector rydw i bob amser wedi bod â diddordeb ynddo yn cael ei astudio’n eang mewn prifysgolion. Bydd dewis prentisiaeth yn rhoi cyfle i mi ddysgu fy nghrefft a datblygu fy sgiliau yn y swydd, gan ganiatáu i mi ddysgu gan y goreuon o fewn y maes. 

“Ar ôl treulio blwyddyn eisoes ar leoliad yn Pullman Rail, rydw i’n gyffrous iawn i gael symud i mewn i’r diwydiant yn llawn amser a dilyn fy angerdd.” 

Wrth siarad am ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, ychwanegodd James: “Hoffwn aros gyda Pullman Rail am rai blynyddoedd cyn gweithio fy ffordd i fyny i yrru trên ar y rhwydwaith cenedlaethol yn y pen draw. Pan oeddwn yn blentyn, fy mreuddwyd oedd gyrru trenau stêm, gan weithredu teithiau. Fodd bynnag, mae’n arbenigol iawn ac nid oes llawer o gyfle i’w wneud. Felly, rydw i wedi newid y freuddwyd ychydig ond mae’n dal i olygu cael gyrru trenau. 

“Ni allaf ganmol digon ar Goleg y Cymoedd am y gefnogaeth a’r anogaeth y maen nhw wedi’u rhoi i mi yn ystod fy amser yn astudio. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi cael cyfleoedd na fyddwn wedi’u cael yn unman arall, ac mae safon y dysgu wedi bod yn wych. Rwy’n gyffrous i gymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa ac mae gennyf y coleg a Pullman Rail i ddiolch am hynny.” 

Mae Pullman Rail yn un o 1,200 o gyflogwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd. Gyda dros 27 o lwybrau pwnc ar gael, mae gan y coleg un o’r darpariaethau prentisiaeth mwyaf amrywiol yn y DU. 

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Dolenni ac adnoddau’r Coleg Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd