Mae Kian Evans, 18 oed o Aberdâr, un cam yn nes at gyflawni ei nod o chwarae rygbi’n broffesiynol ar ôl cwblhau ei gymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd.
Gyda help Academi Undeb Rygbi Cenedlaethol Cymru, sydd wedi’i leoli ar Gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, mae Kian Evans (18) wedi dysgu anelu’n uchel a’i nod ydy cynrychioli Cymru yn rhyngwladol.
Mae e wedi sicrhau lle i astudio cwrs gradd Cyflyru mewn Chwaraeon, Adsefydlu a Thylino ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n enwog fel un o’r prifysgolion gorau am gyfuno chwaraeon ac addysg uchel ei hansawdd. Bydd hefyd yn chwarae i dîm rygbi’r brifysgol gan gystadlu mewn nifer o gynghreiriau megis Prifysgolion Prydain a Colleges Sport (y tîm cyntaf) a’r Premiership (yr ail dîm) a fydd yn agor y drws i rygbi proffesiynol gan y bydd sgowtiaid yn bresennol yn y gemau hyn.