Gofalwr ifanc ysbrydoledig a phencampwr deifio uchel yn barod ar gyfer ei gyrfa mewn bydwreigiaeth
Mae merch frwdfrydig yn ei harddegau, sydd wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf yn cyfuno gwaith coleg ynghyd â bod yn ofalwr ifanc ac yn athletwr arobryn, yn edrych ymlaen at wireddu ei breuddwyd o ddod yn fydwraig ar ôl sicrhau ei lle yn y brifysgol.
Mae Lydia Williamson-Price, sy’n ddysgwraig pedair ar bymtheg oed yng Ngholeg y Cymoedd, wedi goresgyn nifer o heriau personol dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau ei lle yn y brifysgol, gan gynnwys gorfod mynd i’r ysbyty ar frys, colli ei thaid, diagnosis meddygol, a chydbwyso ei hastudiaethau â’i rolau gofalu a chwaraeon.

Ar ôl magwraeth oedd yn cynnwys cefnogi ei thad i ofalu am ei mam, sy’n anabl, a’i brawd iau, sydd ag awtistiaeth ac ADHD, datblygodd Lydia, o Aberpennar, angerdd am fyd gofal ac roedd bob amser yn gwybod ei bod eisiau gweithio yn y sector iechyd.
Mae Lydia, sydd hefyd yn ddeifwraig uchel sydd wedi ennill medalau, bellach yn gyffrous i ddechrau ei gradd bydwreigiaeth ym Mhrifysgol De Cymru fis Medi eleni. Cafodd ei hysbrydoli i ddilyn yr yrfa ar ôl clywed am brofiadau anodd gafodd ei mam ei hunan yn ystod genedigaeth, profiad arweiniodd at dreulio dros fis yn yr Uned Gofal Dwys, ac ar ôl i Lydia siarad â rhai o’r nyrsys a ofalodd amdani hithau pan oedd yn faban yn yr uned gofal arbennig.
Esboniodd Lydia: “Pan gefais i fy ngeni, es i’n syth i’r uned gofal arbennig ac roedd fy mam yn yr Uned Gofal Dwys am amser hir, wedi iddo fod bron â marw yn rhoi genedigaeth i mi. Roeddem bob amser yn ddiolchgar iawn i’r tîm a fu’n gofalu amdanom, ac fe wnes i dyfu i fyny yn cymryd rhan mewn llawer o waith codi arian gyda mam ar gyfer elusen leol a oedd yn cefnogi mamau a gafodd enedigaethau trawmatig a lle roedd eu babanod hefyd yn dost.
“Trwy hyn, cefais hefyd gyfle i gwrdd â’r nyrsys a oedd yn gofalu amdanaf pan oeddwn yn fach. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y gall bydwragedd gael ar bethau. Yn wir, rwyf finnau eisiau gwneud gwahaniaeth i helpu mamau a’u rhai bach.
“Mae menywod mewn sefyllfa fregus pan maen nhw’n rhoi genedigaeth ac rydw i eisiau gwneud eu profiad mor gyfforddus â phosib. Fy nod yw eirioli dros fenywod a rhoi’r llais iddyn nhw gael yr enedigaeth maen nhw’n ei ddymuno. Rydw i mor gyffrous i ddechrau fy nghwrs yn y brifysgol – alla i ddim aros i gychwyn!”
Yn daer am yrfa mewn bydwreigiaeth, ymunodd Lydia â Choleg y Cymoedd i astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fel llwybr amgen i’r brifysgol. Roedd wedi ei denu at y cwrs a’r hyblygrwydd a gynigir yn y coleg a oedd yn caniatáu iddi ennill cymhwyster er gwaethaf yr heriau oedd yn ei wynebu.
Fodd bynnag, dyw’r daith i brifysgol ddim wedi bod yn hawdd i Lydia, ar ôl 12 mis heriol i’r ofalwraig ifanc. Yn y cyfnod cyn Nadolig 2023, bu farw ei thad-cu, un yr oedd hi’n ei ystyried yn ffrind gorau iddi. Yna, ar ddechrau’r flwyddyn newydd, aeth hithau’n wael yn sydyn gyda thwymyn y chwarennau a sepsis, a arweiniodd at heintiau a oedd yn niweidio gweithrediad ei horganau. Golygodd hyn arhosiad yn Uned Gofal Dwys yr ysbyty am dros fwy na phythefnos a thros ddydd ei phen-blwydd.
O ganlyniad, bu’n rhaid i Lydia fod deufis o’r coleg i wella. Ar ôl colli ei holl gryfder, rhoddodd y salwch stop ar un o’i hoffterau hefyd – chwaraeon, yn enwedig deifio uchel, rhywbeth yr oedd wedi bod yn ei wneud ers ei bod chwe mlwydd oed.
Roedd yn hynod egnïol fel plentyn a dechreuodd Lydia fod mewn grŵp ‘cheerleading’ a deifio uchel o oedran ifanc, gan fynd ymlaen i gystadlu mewn pencampwriaethau cenedlaethol yn y ddwy gamp. Ar ôl datblygu cariad at ddeifio uchel, yn 13 oed, dechreuodd gysgodi hyfforddwyr cyn ennill ei chymwysterau a dod yn athrawes ei hun yng Nghanolfan Hamdden Aberdâr cyn gynted ag y cyrhaeddodd ei 16 mlwydd oed, gan gynnal dosbarthiadau nos bedair gwaith yr wythnos i blant ac oedolion, a hynny drwy’r amser y bu’n astudio.
Fel deifwraig uchel ddawnus, cafodd Lydia fudd o gael ei dewis ar gyfer y Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS) yng Ngholeg y Cymoedd, yr unig goleg yng Nghymru ag achrediad Gyrfa Ddeuol TASS. Mae’r cynllun hwn wedi’i gynllunio i helpu athletwyr 16 oed ac uwch i gydbwyso eu hamser a chyflawni eu nodau heb gyfaddawdu. Mae’r rhaglen yn cynnig llwybr deuol i ddysgwyr ar gyfer rhagoriaeth academaidd ac athletaidd. Trwy’r cynllun, derbyniodd Lydia gefnogaeth ychwanegol gan y coleg gan gynnwys gwersi a dedleins hyblyg, datblygiad personol 1-1 a chyngor ar ddilyniant oedd yn rhoi ystyriaeth i’w hymrwymiadau chwaraeon.
Roedd diagnosis blaenorol o scoliosis yn ystod y pandemig eisoes wedi dod â chyfnod Lydia fel ‘cheerleader’ i ben, ond roedd ei arhosiad yn yr ysbyty yn golygu bod yn rhaid iddi nawr roi’r gorau i’w gwaith hyfforddi hefyd, er ei bod yn gobeithio y bydd yn gallu ail-afael ynddo’n ddiweddarach eleni, unwaith bydd ei hiechyd yn gwella.
Esboniodd Lydia: “Syrthiais mewn cariad yn llwyr â deifio uchel cyn gynted ag y gwnes i fentro arno gyntaf. Enillais fy nghymwysterau cyn gynted ag y gallwn oherwydd roeddwn mor angerddol drosto. Rwyf wrth fy modd yn ei hyfforddi. Pan ydw i ar ochr y pwll, dwi’n anghofio am bopeth arall sy’n digwydd yn fy mywyd. Mae’n ddihangfa – rhywle dwi’n hoff iawn o fod – felly mae gorfod rhoi’r ffidil yn y to wedi bod yn anodd iawn. Rwy’n gobeithio dechrau nôl dros yr haf, os bydd fy iechyd yn caniatáu hynny.”
Ar ôl seibiant o fyd addysg yn dilyn marwolaeth ei thad-cu a’i gwaeledd hi ei hun, roedd Lydia’n gofidio am yr effaith ar ei hastudiaethau. Roedd yn benderfynol o beidio â gadael i unrhyw beth effeithio ar ei siawns o fynd i’r brifysgol, felly gwnaeth benderfyniad a gweithio’n agos gyda’i thiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd i ddal i fyny â’r gwaith a gollwyd.
Ychwanegodd Lydia: “Roedd yn anodd gweld fy ffrindiau i gyd yn mynd i’r brifysgol y llynedd tra mod i’n mynd i’r coleg, ond dyna oedd y penderfyniad gorau y gallwn i fod wedi’i wneud. Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ganfod llwybr gwahanol i gyrraedd lle roeddwn i eisiau bod.
“Gwnaeth ymuno â Choleg y Cymoedd wahaniaeth enfawr i mi. Roedd yr arddull mwy annibynnol o ddysgu yn y coleg yn fy siwtio’n well ac mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael yma fel gofalwraig ifanc wedi bod yn anhygoel. Pan ddigwyddodd popeth yn gynharach eleni, roeddwn i’n pryderu am yr hyn y byddai’n ei olygu i’m dysg. Fe symudais i o gael presenoldeb 100% y llynedd i golli llawer o goleg.
“Fodd bynnag, roedd y coleg mor ystyriol pan gymerais amser i ffwrdd ac fe wnaethon nhw bopeth o fewn eu gallu i fy helpu, gan roi’r gofod i mi wella tra’n dal i gysylltu i wneud yn siŵr fy mod yn iawn a darparu gwersi y gallwn eu gwneud gartref. Rydw i mor ddiolchgar ac rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf yn fy mywyd diolch i’w cefnogaeth.”
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




