Mae canlyniadau uchaf Lefel A yn agor y drws ar freuddwyd ryngwladol i ieithydd ifanc brwd
Cyflawnodd Brooke Pothecary, 18 oed, raddau A* ymhob pwnc a astudiodd sef Llenyddiaeth Saesneg, drama ac astudiaethau crefyddol yn ogystal â gradd A ym Magloriaeth Cymru a nawr mae’n mynd ymlaen i astudio Eidaleg a Japaneeg ym Mhrifysgol Caerdydd lle caiff gyfle i deithio i’r Eidal a Siapan ar leoliad tramor.
Yna, gobaith y ddysgwraig o Goleg y Cymoedd , sy’n yn rhugl yn y Gymraeg ac sy’n hanu o’r Porth, Rhondda, ydy symud i Awstralia i fod yn athrawes Eidaleg, lle mae galw mawr am athrawon i addysgu Eidaleg, ar ôl iddi ddatblygu hoffter at ieithoedd yn ystod ei theithiau yn Sbaen, Gwlad yr Iâ a Thwrci.
Dywedodd Brooke: “Dw i’n frwd dros ieithoedd oherwydd mod i’n teithio llawer ac yn nabod pobl sy’n cael trafferth gyda Saesneg. Mae disgwyl byd-eang y dylai pobl siarad Saesneg ond dydy hynny ddim yn wir bob amser felly dw i’n ceisio dysgu ychydig o’r iaith frodorol lle bynnag fydda i’n mynd yn y byd.
“Dewisais Brifysgol Caerdydd oherwydd mod i’n hoffi’r ffaith eu bod yn cynnig yr opsiwn i ddysgu mwy nag un iaith i lefel gradd a dwi’n awyddus i ddysgu cymaint o ieithoedd ag y galla i. Mae galw mawr am Eidaleg ac mae diddordeb mawr gen i mewn dysgu Japaneeg.”
Gobaith y ddysgwraig Lefel A ydy y bydd dysgu ieithoedd yn ei helpu i ddeall diwylliannau eraill a hynny yn ei dro yn ei galluogi i drosglwyddo’r wybodaeth hon i helpu eraill ddatblygu dealltwriaeth well rhwng gwahanol ddiwylliannau.
“Rydw i am fod yn rhywun sy’n dysgu ieithoedd er mwyn helpu pobl eraill. Gwn ei bod yn dasg anferthol ond dw i’n benderfynol o ddysgu am ddiwylliannau eraill ac yn teimlo y gallai dysgu’r ieithoedd hyn fod o help mewn rhyw fodd,” meddai.
Mae Brooke wedi dewis gwneud gradd mewn Eidaleg oherwydd y galw am athrawon yn yr iaith yn Awstralia lle hoffai deithio. Er ei bod eisoes yn dysgu iaith Corea fel hobi, mae Brooke wedi penderfynu astudio Japaneeg hefyd er mwyn ehangu rhychwant ei sgiliau ieithyddol.
Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd, caiff Brooke gyfle i deithio i’r Eidal a Siapan ar leoliadau, ynghyd â chyflwyniadau llafar, trafodaethau grŵp a gwaith cwrs ysgrifenedig i ddatblygu ei dysgu.
Yn ei hamser sbâr, mae Brooke wrth ei bodd i fod yn greadigol ac mae ei dewisiadau o bynciau Lefel A yn dangos y ddawn greadigol honno. Ynghyd ag astudio iaith Corea, mae hi’n hoffi ysgrifennu ac yn gobeithio gwirfoddoli yn y dyfodol, a bod ei hastudiaethau yn caniatáu hynny, mewn seintwar bywyd gwyllt neu anifeiliaid.
Ychwanegodd Brooke: “Fel mae’n siŵr fod pawb sy’n astudio ar gyfer eu lefel A yn teimlo, bu’n flwyddyn llawn strés, ond bu’r coleg yn rhyfeddol. Maen nhw wedi bod yno bob amser pan fo angen ac mae eu cymorth wedi fy helpu i gyrraedd y man lle rydw i ar hyn o bryd.
“Rydw i mor ddiolchgar i fy athrawon a fy mentoriaid yng Ngholeg y Cymoedd, fe wnaethon nhw bopeth gallen nhw i sicrhau mod i’n llwyddo yn fy arholiadau Lefel A.”