Sam Wiener.

Mae bachgen ifanc o Gaerdydd sy’n frwd dros hanes wedi sicrhau lle i astudio/r pwnc yn un o brifysgolion gorau’r DU ar ôl ennill y graddau uchaf yn ei bynciau Lefel A.

Mae Sam Wiener, 18 oed, sy’n ddysgwr o Goleg y Cymoedd yn mynd i astudio hanes ym Mhrifysgol Warwick ym mis Medi eleni ar ôl ennill 3A* a B mewn Hanes, Llenyddiaeth Saesneg, Drama a Seicoleg yn eu tro.

Prifysgol Warwick, sydd yn un o’r deg prifysgol orau yn y DU yn ôl y Times Higher Education 2022 ac o fewn y deg uchaf o ran astudio Hanes, oedd dewis cyntaf Sam.

Er nad yw eto’n sicr pa lwybr gyrfaol fydd yn ei ddewis, mae Sam wedi bod yn frwd dros hanes erioed ac mae’n gyffrous i ddatblygu ei ddysgu ymhellach a gweld beth fydd yn digwydd yn y pen draw o ran gyrfa.

SAM-WIENER
SAM-WIENER

Dywedodd Sam: “Dydw i ddim yn sicr beth wna i fel gyrfa ar ôl gadael y brifysgol ond mae hynny’n iawn. Dw i’n credu bod lawer o bwysau ar bobl ifanc i wybod yn union yr hyn maen nhw eisiau ei wneud a bod eu gyrfa wedi’i chynllunio eisoes, ond dydy hynny ddim yn realistig bob amser.

“Dw i’n edrych ymlaen at astudio a datblygu fy ngwybodaeth mewn maes mae gen i ddiddordeb ysol ynddo. Galla i feddwl am y gweddill wrth i mi fynd ymlaen – mae hynny’n gyffrous iawn.”

Ac yntau’n ddarllenwr brwd erioed, mae Sam yn caru llenyddiaeth academaidd ac â diddordeb arbennig mewn hanes cymdeithasol a diwylliannol a hynny a’i symbylodd i ddewis ei bynciau Lefel A.

“Mae gen i gymaint o gariad at ddysgu ac mae’r hyn sydd i’w ddysgu am hanes yn ddi-ben-draw – mae cymaint na wyddon ni. Dw i’n teimlo bod themâu fy mhynciau lefel A yn gorgyffwrdd sef deall pobl, deall cymdeithas a sut yr ydyn ni meddwl. Dw i wrth fy modd gyda’r elfen ddadansoddiadol lle gallwch ymarfer meddwl yn annibynnol””

Mae/’r cwrs ym Mhrifysgol Warwick yn delio ag ystod o hanes rhyngwladol o hanes y Dwyrain Canol a Dwyrain Ewrasia hyd at hanes diwylliannol America Affricanaidd. Mae Sam yn gyffrous i dwrio’n ddyfnach i arferion pobl ac i’r newid hanesyddol byd-eang.

Mae’r cwrs hefyd yn cynnig y cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio dramor mewn lleoliadau fel Hong Kong a Fenis, y mae gan Sam ddiddordeb yn eu harchwilio.

I Sam, bu astudio ar gyfer ei Lefel A drwy gyfnod y pandemig yn anodd iawn ond mae’n canmol y cymorth parhaus a gafodd gan y coleg.

Dywedodd: “Bu’r cymorth a gefais gan Goleg y Cymoedd yn wych. Cynigiodd y coleg lawer o gymorth dysgu ychwanegol ac roedd yn hawdd cael siarad â’r tiwtoriaid a hynny’n gwneud y broses yn llai brawychus. Gwnaeth y coleg hi’n glir eu bod yno i mi bob amser drwy gydol fy Lefel A ac fe gadwon nhw at eu haddewid.”

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau