Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Newydd yng Ngholeg y Cymoedd yn cael ei hanrhydeddu â gwobr genedlaethol am helpu myfyrwyr lleol a darpar athletwyr proffesiynol

Mae Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon Coleg y Cymoedd yn Nantgarw wedi ennill ‘Prosiect y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Mae’r gwobrau’n dathlu’r gorau o ran dylunio, darparu a rheoli adeiladau addysgol yng Nghymru a dyma’r seithfed flwyddyn iddynt gael eu cynnal.

Mae’r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, a agorodd yn 2023, yn gyfleuster o’r radd flaenaf sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ddatblygu eu sgiliau a’u gallu mewn amrywiaeth o chwaraeon, yn ogystal â chael mynediad at addysg a chymorth academaidd.

O ganlyniad i fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd, mae’r ganolfan yn cynnwys neuadd chwaraeon, cyfleusterau ystafell ddosbarth, campfa llawn offer, i gyd yn dilyn yr arfer gorau o ran perfformiad a chynaliadwyedd.

Codwyd y ganolfan gan dîm cydweithredol a oedd yn cynnwys Mott MacDonald, Austin-Smith:Lord and Kier Group, a weithiodd yn agos gyda’r coleg a’r gymuned leol i greu adeilad nodedig sy’n gwella amgylchedd dysgu a lles y defnyddwyr.

Nod arall oedd lleihau ôl troed carbon y coleg, ac felly cynlluniwyd yr adeilad deulawr gyda nodweddion arloesol fel paneli solar, gerddi glaw, dalwyr gwynt, a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, i annog awyru naturiol ac effeithlonrwydd ynni.

Wrth siarad yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2024, dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llywodraeth Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran darparu ysgolion a cholegau newydd ac wedi’u hadnewyddu sy’n ddiogel, yn ysbrydoledig ac yn ddeniadol i’n dysgwyr ac a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth wella bywydau pob dysgwr.

 “Mae gan bob un ohonoch chi yma heddiw rôl allweddol yn y daith hon.”

Dywedodd Glenn Black, Cyfarwyddwr Isadeiledd Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n falch iawn o’r cyflawniad hwn a hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y prosiect hwn.

“Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad y coleg i ddarparu’r cyfleusterau a’r cyfleoedd gorau posibl i’w dysgwyr ddilyn eu nodau chwaraeon ac academaidd. Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon nid yn unig o fudd i’r coleg, ond hefyd i’r gymuned ehangach a dyfodol chwaraeon yng Nghymru.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd