n ddiweddar cyhoeddwyd partneriaeth newydd rhwng Coleg y Cymoedd a Gwalia United, un o glybiau pêl-droed merched gorau Cymru. Gan ddechrau o fis Medi 2024, gall merched rhwng 16-18 oed sy’n chwarae pêl-droed gofrestru yn Academi Pêl-droed Merched y coleg, lle byddant yn astudio Diploma Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon ochr yn ochr â rhaglen hyfforddi pêl-droed amser llawn. Cânt gyfle i chwarae mewn cynghrair gystadleuol ac ymuno â rhaglen lety i ddysgwyr. Bydd dysgwyr yn gwella eu sgiliau, ffitrwydd, a thactegau fel chwaraewr ac yn dysgu sut i reoli eu hyfforddiant a’u gwaith academaidd, er mwyn paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn pêl-droed. Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan gyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, a Darlithwyr Chwaraeon Coleg y Cymoedd Kathryn Morgan a Claire O’Sullivan, sy’n frwd dros ddatblygu pêl-droedwyr benywaidd. Mae ganddyn nhw fwy na 50 mlynedd o brofiad hyfforddi ar wahanol lefelau, gan gynnwys academïau elit a thimau cenedlaethol. Dywedodd Kathryn Morgan: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Gwalia United, clwb sydd â’r un weledigaeth a gwerthoedd â ni ar gyfer cefnogi pêl-droed merched.
“Rydyn ni wedi chwarae a hyfforddi ar y lefel uchaf, ac rydyn ni’n gwybod beth sydd ei angen i ragori yn y gamp hon.
“Bydd ein rhaglen yn helpu’r dysgwyr i wella eu sgiliau, ffitrwydd, a thactegau, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer yr heriau academaidd a phroffesiynol sydd o’u blaenau.” Ychwanegodd Claire O’Sullivan: “Dyma gyfle unigryw i ferched ifanc sydd eisiau dilyn eu breuddwydion pêl-droed a chael addysg dda ar yr un pryd.
“Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda Gwalia United i sicrhau bod y dysgwyr yn cael profiad cadarnhaol a gwerth chweil, ar y cae ac oddi arno.
“Hefyd, byddwn ni’n eu cefnogi i gydbwyso eu hyfforddiant a’u hastudiaethau, ac i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol fel rheoli amser, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.” Gall y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen unigryw a chyffrous hon wneud cais ar-lein yn: https://www.cymoedd.ac.uk/?s=chwaraeon&lang=cy&lang=cy
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR




