Coleg y Cymoedd yn cael ei gydnabod am ei gefnogaeth ragorol i ddysgwyr Safon Uwch

Mae Coleg y Cymoedd wedi cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i gefnogi dysgwyr Safon Uwch mwy abl a thalentog (MAT) i gyflawni eu potensial academaidd.

Mae Canolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd yn Nantgarw, y darparwr Safon Uwch mwyaf yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, wedi ennill achrediad Her y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Abl (NACE) a ddyfernir i ddarparwyr addysg sy’n cynnig addysg heriol o ansawdd uchel i ddysgwyr Mwy Abl a Thalentog (MAT).

Mae Coleg y Cymoedd yn un o ddim ond dau goleg yn y DU i ennill yr achrediad, ar ôl blwyddyn lwyddiannus arall o ganlyniadau Safon Uwch, gyda myfyrwyr yn cyflawni cyfradd pasio Safon Uwch cyffredinol o 99% a chyfradd lwyddo o 100% mewn 20 o 23 pwnc.

Mae NACE, sy’n elusen annibynnol yn y DU, yn cefnogi ysgolion a cholegau i wella’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer dysgwyr MAT drwy ddarparu adnoddau a hyfforddiant i helpu dysgwyr i anelu’n uchel a llwyddo. Derbyniodd Coleg y Cymoedd statws ‘Dyfarniad Her’ i gydnabod yr amrywiaeth o fentrau a gwasanaethau cymorth sydd ar waith ar gyfer dysgwyr Safon Uwch. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd i fynychu ysgolion haf, fel STEM SMART, Sutton Trust US Programme a’r Gronfa Symudedd Cymdeithasol ar gyfer Darpar Weithwyr Proffesiynol, cymorth i sicrhau lleoliadau profiad gwaith; cysylltiadau â llwybrau Rhydychen a Chaergrawnt fel rhaglen Step Up Prifysgol Rhydychen; gofal bugeiliol; a mynediad at amrywiaeth o raglenni mentora lle dyrennir mentoriaid arbenigol i fyfyrwyr, gan eu harwain drwy broses ymgeisio a chyfweld y brifysgol.

Yn nodedig, mae gan y coleg raglen fentora bwrpasol i fenywod sydd â’r nod o rymuso’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr ifanc i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol, gan eu paru â mentor yn seiliedig ar eu diddordebau gyrfa neu’r sgiliau y maent am eu datblygu.

Cydnabu NACE ymroddiad staff Coleg y Cymoedd i ddarparu amgylchedd dysgu tawel a chefnogol, lle mae dysgwyr Safon Uwch yn cael lefel uchel o her academaidd ac yn cael eu trin fel oedolion ifanc, gan arwain at ddangos agwedd aeddfed a chyfrifol at eu hastudiaethau.

Roedd y wobr hefyd yn canmol dull y coleg o gydnabod unigrywiaeth ac anghenion pwrpasol pob dysgwr, gyda staff yn ymdrechu i feithrin gallu pob unigolyn yn bersonol ac yn academaidd. Canmolwyd hefyd y broses o gyflwyno “adolygiad dewis cywir” wrth iddynt ddechrau yn y coleg i arwain dysgwyr i ddewis y pynciau sy’n gweddu orau i’w dyheadau yn y dyfodol.

Ers agor ei ddrysau yn 2013, mae 15 o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi sicrhau lleoedd yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac mae dros 200 o ddysgwyr wedi symud ymlaen i brifysgolion Grŵp Russell. Yng ngharfan 2023/24, nodwyd 44 o fyfyrwyr fel myfyrwyr MAT, derbyniwyd 29 i Brifysgol 30 Sutton Trust, a derbyniwyd 13 i brifysgolion eraill.

Mae Grace Bennett, 18 oed, sy’n ffanatig gwyddoniaeth, yn un dysgwr sydd wedi elwa ar gymorth MAT Coleg y Cymoedd. Aeth Grace ymlaen i sicrhau lle i astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Rhydychen yr haf diwethaf ar ôl derbyn A*A*A yn ei harholiadau Safon Uwch Bioleg, Mathemateg a Chemeg. Wedi’i hysbrydoli gan frwydr ei mam â melanoma i ddilyn gyrfa mewn geneteg, cefnogwyd Grace gan dîm MAT y coleg i ennill lle ar ysgol haf UNIQ Rhydychen, profiad preswyl tridiau a gynlluniwyd i roi’r cyfle i ddarpar ymgeiswyr Rhydychen gael dysgu sut le fyddai addysg amser llawn yn y brifysgol.

Dywedodd: “Rydw i mor ddiolchgar am lefel y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais gan fy nhiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd yn ystod fy Safon Uwch. Aeth fy nhiwtoriaid gam ymhellach i fy helpu gyda gwersi adolygu ychwanegol lle bo angen, gan wneud yn siŵr fy mod mor barod â phosibl ar gyfer fy mhennod newydd yn Rhydychen.”

Roedd proses asesu Her NACE yn cynnwys hunanwerthusiad manwl o ddarpariaeth y coleg gan ddefnyddio Fframwaith Her NACE, cyflwyno portffolio o dystiolaeth ategol, ac asesiad gan aelod cyswllt o NACE. Roedd y broses yn cynnwys archwilio data a dogfennau allweddol; arsylwadau gwersi; a chyfweliadau gyda staff, dysgwyr, rhieni a llywodraethwyr.

Dywedodd Holly Richards, Arweinydd Mwy Galluog a Thalentog ar gyfer Safon Uwch ac Arweinydd Rhaglen Fentora Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod falch ein bod wedi ennill dyfarniad Her NACE ac mai ni yw dim ond yr ail goleg yn y DU i wneud hynny.

“Wrth wraidd ein darpariaeth ar gyfer dysgwyr MAT mae ymrwymiad i feithrin diwylliant o ragoriaeth. Mae ein tiwtoriaid a’n staff yn ymdrechu i ddiwallu anghenion personol pob dysgwr unigol, gan eu cefnogi gydag addysgu o ansawdd uchel, gofal bugeiliol wedi’i deilwra ac amgylchedd dysgu ysbrydoledig er mwyn iddynt gael ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

“Anogir dysgwyr i fod yn uchelgeisiol, ac mae’r dyfarniad hwn yn dyst i’n staff a’n dysgwyr gwych, sy’n ymdrin â’u hastudiaethau gydag aeddfedrwydd a brwdfrydedd.” I ddysgu rhagor am gyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd, gweler: https://www.cymoedd.ac.uk/courses/lefelau-a/?lang=cy

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

01685 887500

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

01443 662800

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

01443 663202

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

01443 816888
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Porth Dysgwyr a Staff Ap Coleg y Cymoedd Newyddion ADY Gyrfaoedd